Salm 119:33-37
Salm 119:33-37 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di’n dweud; a’i dilyn i’r diwedd. Helpa fi i ddeall, a bydda i’n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i’n ymroi i wneud popeth mae’n ei ofyn. Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau’i wneud. Gwna fi’n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo’n faterol. Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
Salm 119:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau, ac o'i chadw fe gaf wobr. Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraith a'i chadw â'm holl galon; gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion, oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Tro fy nghalon at dy farnedigaethau yn hytrach nag at elw; tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd; adfywia fi â'th air.
Salm 119:33-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra. Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.