Salm 119:25-40
Salm 119:25-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n methu codi o’r llwch! Adfywia fi fel rwyt wedi addo! Dyma fi’n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti’n ateb. Dysga dy ddeddfau i mi. Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion, a bydda i’n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu gwneud. Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo! Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi; a rho dy ddysgeidiaeth i mi. Dw i wedi dewis byw’n ffyddlon i ti, a chadw fy llygaid ar dy reolau di. Dw i’n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi! Dw i wir eisiau byw’n ffyddlon i dy orchmynion; helpa fi i weld y darlun mawr. O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di’n dweud; a’i dilyn i’r diwedd. Helpa fi i ddeall, a bydda i’n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i’n ymroi i wneud popeth mae’n ei ofyn. Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau’i wneud. Gwna fi’n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo’n faterol. Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di! Gwna beth wnest ti ei addo i dy was, i ennyn parch ac addoliad ynof fi. Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd, Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn. Dw i’n dyheu am wneud beth rwyt ti’n ei ofyn; rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.
Salm 119:25-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch; adfywia fi yn ôl dy air. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi; dysg i mi dy ddeddfau. Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion, ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid, cryfha fi yn ôl dy air. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf, a rho imi ras dy gyfraith. Dewisais ffordd ffyddlondeb, a gosod dy farnau o'm blaen. Glynais wrth dy farnedigaethau. O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio. Dilynaf ffordd dy orchmynion, oherwydd ehangaist fy neall. O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau, ac o'i chadw fe gaf wobr. Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraith a'i chadw â'm holl galon; gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion, oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Tro fy nghalon at dy farnedigaethau yn hytrach nag at elw; tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd; adfywia fi â'th air. Cyflawna i'th was yr addewid a roddaist i'r rhai sy'n dy ofni. Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni, oherwydd y mae dy farnau'n dda. Yr wyf yn dyheu am dy ofynion; adfywia fi â'th gyfiawnder.
Salm 119:25-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda. Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon. Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra. Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.