Salm 119:162-176
Salm 119:162-176 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid, fel un sy'n cael ysbail fawr. Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll, ond yn caru dy gyfraith di. Seithwaith y dydd yr wyf yn dy foli oherwydd dy farnau cyfiawn. Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch, ac nid oes dim yn peri iddynt faglu. Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ufuddhau i'th orchmynion. Yr wyf yn cadw dy farnedigaethau ac yn eu caru'n fawr. Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau, oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen. Doed fy llef atat, O ARGLWYDD; rho imi ddeall yn ôl dy air. Doed fy neisyfiad atat; gwared fi yn ôl dy addewid. Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant am iti ddysgu i mi dy ddeddfau. Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid, oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn. Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo, oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion. Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith. Gad imi fyw i'th foliannu di, a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo. Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll; chwilia am dy was, oherwydd nid anghofiais dy orchmynion.
Salm 119:162-176 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus, fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr. Dw i’n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di. Dw i’n dy addoli di saith gwaith y dydd am dy fod ti’n dyfarnu’n gyfiawn. Mae’r rhai sy’n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu. Dw i’n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD! Dw i’n cadw dy orchmynion di; dw i’n ufuddhau i dy ddeddfau di ac yn eu caru nhw’n fawr. Dw i’n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di. Ti’n gwybod yn iawn am bopeth dw i’n wneud. Gwranda arna i’n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD; helpa fi i ddeall, fel rwyt ti’n addo gwneud. Dw i’n cyflwyno beth dw i’n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo. Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau, am dy fod ti’n dysgu dy ddeddfau i mi. Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau, am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn. Estyn dy law i’m helpu. Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di. Dw i’n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD; mae dy ddysgeidiaeth di’n hyfrydwch pur i mi. Gad i mi fyw, i mi gael dy foli! gad i dy reolau di fy helpu i. Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
Salm 119:162-176 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer. Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais. Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau. Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt. Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion. Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt. Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di. Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air. Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air. Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau. Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder. Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais. Hiraethais, O ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch. Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi. Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.