Salm 119:145-157
Salm 119:145-157 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD, ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau. Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi, ac fe gadwaf dy farnedigaethau. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth, a gobeithiaf yn dy eiriau. Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos, i fyfyrio ar dy addewid. Gwrando fy llef yn ôl dy gariad; O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi. Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu, ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith. Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD, ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd. Gwn erioed am dy farnedigaethau, i ti eu sefydlu am byth. Edrych ar fy adfyd a gwared fi, oherwydd nid anghofiais dy gyfraith. Amddiffyn fy achos ac achub fi; adfywia fi yn ôl dy addewid. Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus, oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau. Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD; adfywia fi yn ôl dy farn. Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus, ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.
Salm 119:145-157 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n gweiddi arnat ti o waelod calon! “Ateb fi, ARGLWYDD, er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.” Dw i’n gweiddi arnat ti, “Achub fi, er mwyn i mi gadw dy reolau.” Dw i’n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi! Dw i’n dal yn effro cyn i wylfa’r nos ddechrau, ac yn myfyrio ar dy eiriau. Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon; O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder! Mae’r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes! Maen nhw’n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di. Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD, ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir. Dw i wedi dysgu ers talwm fod dy reolau di yn aros am byth. Edrych fel dw i’n dioddef, ac achub fi! Dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di. Dadlau fy achos a helpa fi! Cadw fi’n saff, fel rwyt wedi addo gwneud. Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti; dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau. Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD; adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder! Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i; ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di.
Salm 119:145-157 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llefais â’m holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf. Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau. Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais. Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di. Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di. Tithau, ARGLWYDD, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd. Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd. Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith. Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air. Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di. Dy drugareddau, ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.