Salm 119:105-112
Salm 119:105-112 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr. Dw i wedi addo ar lw y bydda i’n derbyn dy ddedfryd gyfiawn. Dw i’n dioddef yn ofnadwy; O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo! O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl, a dysga dy ddeddfau i mi. Er bod fy mywyd mewn perygl drwy’r adeg, dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di. Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi, ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion. Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth; maen nhw’n bleser pur i mi! Dw i’n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau: mae’r wobr yn para am byth.
Salm 119:105-112 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr. Tyngais lw, a gwneud adduned i gadw dy farnau cyfiawn. Yr wyf mewn gofid mawr; O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air. Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD, a dysg i mi dy farnedigaethau. Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo, ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith. Gosododd y drygionus rwyd i mi, ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion. Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth, oherwydd y maent yn llonder i'm calon. Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau; y mae eu gwobr yn dragwyddol.
Salm 119:105-112 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr. Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder. Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air. Atolwg, ARGLWYDD, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau. Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith. Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion. Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt. Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.