Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 119:1-176

Salm 119:1-176 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae’r rhai sy’n byw yn iawn, ac yn gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud wedi’u bendithio’n fawr! Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae’n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi’u bendithio’n fawr! Dŷn nhw’n gwneud dim drwg, ond yn ymddwyn fel mae e eisiau. Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion i gael eu cadw’n ofalus. O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn fel mae dy ddeddfau di’n dweud! Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd wrth feddwl am dy orchmynion di. Dw i’n diolch i ti o waelod calon wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau. Dw i’n mynd i gadw dy ddeddfau; felly paid troi cefn arna i’n llwyr! Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti’n dweud. Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di. Dw i’n trysori dy neges di yn fy nghalon, er mwyn peidio pechu yn dy erbyn. Rwyt ti’n fendigedig, O ARGLWYDD! Dysga dy ddeddfau i mi. Dw i’n ailadrodd yn uchel y rheolau rwyt ti wedi’u rhoi. Mae byw fel rwyt ti’n dweud yn rhoi mwy o lawenydd na’r cyfoeth mwya. Dw i am fyfyrio ar dy ofynion, a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd. Mae dy ddeddfau di’n rhoi’r pleser mwya i mi! Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti’n ddweud. Helpa dy was! Cadw fi’n fyw i mi allu gwneud beth ti’n ei ddweud. Agor fy llygaid, i mi allu deall y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu dysgu. Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro. Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i. Dw i’n ysu am gael gwybod beth ydy dy ddyfarniad di. Rwyt ti’n ceryddu pobl falch, ac yn melltithio’r rhai sy’n crwydro oddi wrth dy orchmynion di. Wnei di symud yr holl wawdio a’r cam-drin i ffwrdd? Dw i’n cadw dy reolau di. Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i, mae dy was yn astudio dy ddeddfau. Mae dy ofynion di’n hyfrydwch pur i mi, ac yn rhoi arweiniad cyson i mi. Dw i’n methu codi o’r llwch! Adfywia fi fel rwyt wedi addo! Dyma fi’n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti’n ateb. Dysga dy ddeddfau i mi. Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion, a bydda i’n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti’n eu gwneud. Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo! Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi; a rho dy ddysgeidiaeth i mi. Dw i wedi dewis byw’n ffyddlon i ti, a chadw fy llygaid ar dy reolau di. Dw i’n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi! Dw i wir eisiau byw’n ffyddlon i dy orchmynion; helpa fi i weld y darlun mawr. O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di’n dweud; a’i dilyn i’r diwedd. Helpa fi i ddeall, a bydda i’n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i’n ymroi i wneud popeth mae’n ei ofyn. Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau’i wneud. Gwna fi’n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo’n faterol. Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di! Gwna beth wnest ti ei addo i dy was, i ennyn parch ac addoliad ynof fi. Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd, Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn. Dw i’n dyheu am wneud beth rwyt ti’n ei ofyn; rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb. Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD. Achub fi, fel rwyt ti wedi addo. Wedyn bydda i’n gallu ateb y rhai sy’n fy enllibio, gan fy mod i’n credu beth rwyt ti’n ei ddweud. Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy’n wir, dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di. Wedyn bydda i’n ufudd i dy ddysgeidiaeth di am byth bythoedd! Gad i mi gerdded yn rhydd am fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau. Bydda i’n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion. Fydd gen i ddim cywilydd. Mae dy orchmynion yn rhoi’r pleser mwya i mi, dw i wir yn eu caru nhw! Dw i’n cydnabod ac yn caru dy orchmynion, ac yn myfyrio ar dy ddeddfau. Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was – dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi. Yr hyn sy’n gysur i mi pan dw i’n isel ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi. Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio i’n greulon, ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di. Dw i’n cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD, ac mae hynny’n rhoi cysur i mi. Dw i’n gwylltio’n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynny sy’n gwrthod dy ddysgeidiaeth di. Dy ddeddfau di fu’n destun i’m cân ble bynnag dw i wedi byw! Dw i’n cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD, ac yn gwneud beth rwyt ti’n ei ddysgu. Dyna dw i wedi’i wneud bob amser – ufuddhau i dy ofynion di. Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i: Dw i’n addo gwneud fel rwyt ti’n dweud. Dw i’n erfyn arnat ti o waelod calon: dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud. Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd, ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di. Heb unrhyw oedi, dw i’n brysio i wneud beth rwyt ti’n ei orchymyn. Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad, ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di. Ganol nos dw i’n codi i ddiolch am dy fod ti’n dyfarnu’n gyfiawn. Dw i’n ffrind i bawb sy’n dy ddilyn di, ac yn gwneud beth rwyt ti’n ei ofyn. Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwi’r ddaear! Dysga dy ddeddfau i mi. Rwyt wedi bod yn dda tuag ata i fel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD. Rho’r gallu i mi wybod beth sy’n iawn; dw i’n trystio dy orchmynion di. Rôn i’n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i’n dioddef, ond bellach dw i’n gwneud beth rwyt ti’n ddweud. Rwyt ti’n dda, ac yn gwneud beth sy’n dda: dysga dy ddeddfau i mi. Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i, ond dw i’n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion. Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw, ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di. Roedd yn beth da i mi orfod dioddef, er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau. Mae beth rwyt ti’n ei ddysgu yn fwy gwerthfawr na miloedd o ddarnau arian ac aur. Ti sydd wedi fy ngwneud i a’m siapio i; helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di. Bydd pawb sy’n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi, am mai dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi. O ARGLWYDD, dw i’n gwybod fod beth rwyt ti’n ei benderfynu yn iawn; roeddet ti’n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi. Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi, fel gwnest ti addo i dy was. Mae dy ddysgeidiaeth di’n rhoi’r pleser mwya i mi felly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw. Gad i’r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam! Dw i’n mynd i astudio dy ofynion di. Gwna i’r rhai sy’n dy barchu ac yn dilyn dy reolau fy nerbyn i yn ôl. Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfau fel bydd dim cywilydd arna i. Dw i’n dyheu i ti fy achub i! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi! Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi’i addo: “Pryd wyt ti’n mynd i’m cysuro i?” meddwn i. Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg! Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau. Am faint mwy mae’n rhaid i mi ddisgwyl? Pryd wyt ti’n mynd i gosbi’r rhai sy’n fy erlid i? Dydy’r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di; maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i. Dw i’n gallu dibynnu’n llwyr ar dy orchmynion di; mae’r bobl yma’n fy erlid i ar gam! Helpa fi! Maen nhw bron â’m lladd i, ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di. Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi’n fyw, a bydda i’n gwneud popeth rwyt ti’n ei ofyn. Dw i’n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD; maen nhw’n ddiogel yn y nefoedd am byth. Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau! Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae’n aros yno. Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di, mae’r cwbl yn dy wasanaethu di. Byddwn i wedi marw o iselder oni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth. Wna i byth anghofio dy reolau di, rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi drwyddyn nhw. Ti sydd biau fi. Achub fi! Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau. Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio, ond dw i’n myfyrio ar dy orchmynion. Mae yna ben draw i bopeth arall, ond mae dy orchmynion di’n ddiderfyn! O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i’n myfyrio ynddi drwy’r dydd. Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser; maen nhw’n fy ngwneud i’n gallach na’m gelynion; Dw i wedi dod i ddeall mwy na’m hathrawon i gyd, am fy mod i’n myfyrio ar dy ddeddfau di. Dw i wedi dod i ddeall yn well na’r rhai mewn oed, am fy mod i’n cadw dy ofynion di. Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg er mwyn gwneud beth rwyt ti’n ddweud. Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di, am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i. Mae’r pethau rwyt ti’n eu dweud mor dda, maen nhw’n felys fel mêl. Dy orchmynion di sy’n rhoi deall i mi, ac felly dw i’n casáu pob ffordd ffals. Mae dy eiriau di yn lamp i’m traed, ac yn goleuo fy llwybr. Dw i wedi addo ar lw y bydda i’n derbyn dy ddedfryd gyfiawn. Dw i’n dioddef yn ofnadwy; O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo! O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl, a dysga dy ddeddfau i mi. Er bod fy mywyd mewn perygl drwy’r adeg, dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di. Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi, ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion. Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth; maen nhw’n bleser pur i mi! Dw i’n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau: mae’r wobr yn para am byth. Dw i’n casáu pobl ddauwynebog, ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di. Ti ydy’r lle saff i mi guddio! Ti ydy’r darian sy’n fy amddiffyn! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi! Ewch i ffwrdd, chi sy’n gwneud drwg! Dw i’n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw. Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw; paid gadael i mi gael fy siomi. Cynnal fi a chadw fi’n saff, a bydda i’n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser. Ti’n gwrthod y rhai sy’n crwydro oddi wrth dy ddeddfau – pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw. Ti’n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach! Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di. Mae meddwl amdanat ti’n codi croen gŵydd arna i; mae dy reolau di’n ddigon i godi ofn arna i. Dw i wedi gwneud beth sy’n iawn ac yn dda; paid gadael fi yn nwylo’r rhai sydd am wneud drwg i mi. Plîs, addo y byddi’n cadw dy was yn saff. Stopia’r bobl falch yma rhag fy ngormesu. Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i, ac i dy addewid sicr ddod yn wir. Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was; dysga dy ddeddfau i mi. Dy was di ydw i. Helpa fi i ddeall a gwybod yn union beth rwyt ti’n ei orchymyn. Mae’n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD! Mae’r bobl yma’n torri dy reolau. Dw i’n meddwl y byd o dy orchmynion di; mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth. Dw i’n dilyn dy ofynion di yn fanwl; dw i’n casáu pob ffordd ffals. Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol, a dyna pam dw i’n eu cadw nhw. Mae dy eiriau di yn goleuo materion, ac yn rhoi deall i bobl gyffredin. Dw i’n dyheu, dw i’n disgwyl yn gegagored ac yn ysu am dy orchmynion di. Tro ata i, a bydd yn garedig ata i; dyna rwyt ti’n ei wneud i’r rhai sy’n caru dy enw di. Dangos di’r ffordd ymlaen i mi; paid gadael i’r rhai drwg gael y llaw uchaf arna i! Gollwng fi’n rhydd o afael y rhai sy’n fy ngormesu, er mwyn i mi wneud beth rwyt ti’n ei ddweud. Bydd yn garedig at dy was, a dysga dy ddeddfau i mi. Mae’r dagrau yn llifo fel afon gen i am fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di. Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD; ac mae dy reolau di yn gwbl deg. Mae’r deddfau rwyt ti wedi’u rhoi yn gyfiawn, ac yn gwbl ddibynadwy. Dw i’n gwylltio’n lân wrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti’n ddweud. Mae dy eiriau di wedi’u profi’n wir, ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw. Er fy mod i’n cael fy mychanu a’m dirmygu, dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di. Mae dy gyfiawnder di yn para am byth; mae dy ddysgeidiaeth di yn wir. Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini, mae dy orchmynion di’n hyfrydwch pur i mi. Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth; rho’r gallu i mi eu deall, i mi gael byw. Dw i’n gweiddi arnat ti o waelod calon! “Ateb fi, ARGLWYDD, er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.” Dw i’n gweiddi arnat ti, “Achub fi, er mwyn i mi gadw dy reolau.” Dw i’n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi! Dw i’n dal yn effro cyn i wylfa’r nos ddechrau, ac yn myfyrio ar dy eiriau. Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon; O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder! Mae’r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes! Maen nhw’n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di. Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD, ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir. Dw i wedi dysgu ers talwm fod dy reolau di yn aros am byth. Edrych fel dw i’n dioddef, ac achub fi! Dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di. Dadlau fy achos a helpa fi! Cadw fi’n saff, fel rwyt wedi addo gwneud. Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti; dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau. Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD; adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder! Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i; ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di. Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i, am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di. Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion! O ARGLWYDD, cadw fi’n saff, fel rwyt wedi addo. Mae popeth rwyt ti’n ddweud yn gwbl ddibynadwy; mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth. Mae’r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam! Ond mae dy eiriau di’n rhoi gwefr i mi. Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus, fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr. Dw i’n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di. Dw i’n dy addoli di saith gwaith y dydd am dy fod ti’n dyfarnu’n gyfiawn. Mae’r rhai sy’n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu. Dw i’n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD! Dw i’n cadw dy orchmynion di; dw i’n ufuddhau i dy ddeddfau di ac yn eu caru nhw’n fawr. Dw i’n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di. Ti’n gwybod yn iawn am bopeth dw i’n wneud. Gwranda arna i’n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD; helpa fi i ddeall, fel rwyt ti’n addo gwneud. Dw i’n cyflwyno beth dw i’n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo. Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau, am dy fod ti’n dysgu dy ddeddfau i mi. Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau, am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn. Estyn dy law i’m helpu. Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di. Dw i’n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD; mae dy ddysgeidiaeth di’n hyfrydwch pur i mi. Gad i mi fyw, i mi gael dy foli! gad i dy reolau di fy helpu i. Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.

Salm 119:1-176 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau, ac yn ei geisio ef â'u holl galon, y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg, ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef. Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfau i'w cadw'n ddyfal. O na allwn gerdded yn unionsyth a chadw dy ddeddfau! Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaid ar dy holl orchmynion. Fe'th glodforaf di â chalon gywir wrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn. Fe gadwaf dy ddeddfau; paid â'm gadael yn llwyr. Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân? Trwy gadw dy air di. Fe'th geisiais di â'm holl galon; paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion. Trysorais dy eiriau yn fy nghalon rhag imi bechu yn dy erbyn. Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD; dysg i mi dy ddeddfau. Bûm yn ailadrodd â'm gwefusau holl farnau dy enau. Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenydd sydd uwchlaw pob cyfoeth. Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di, ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid. Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau, ac nid anghofiaf dy air. Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw, ac fe gadwaf dy air. Agor fy llygaid imi weld rhyfeddodau dy gyfraith. Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear; paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraeth am dy farnau di bob amser. Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedig sy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad, oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau. Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn, bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau; y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi, a hefyd yn gynghorwyr imi. Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch; adfywia fi yn ôl dy air. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi; dysg i mi dy ddeddfau. Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion, ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid, cryfha fi yn ôl dy air. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf, a rho imi ras dy gyfraith. Dewisais ffordd ffyddlondeb, a gosod dy farnau o'm blaen. Glynais wrth dy farnedigaethau. O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio. Dilynaf ffordd dy orchmynion, oherwydd ehangaist fy neall. O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau, ac o'i chadw fe gaf wobr. Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraith a'i chadw â'm holl galon; gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion, oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Tro fy nghalon at dy farnedigaethau yn hytrach nag at elw; tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd; adfywia fi â'th air. Cyflawna i'th was yr addewid a roddaist i'r rhai sy'n dy ofni. Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni, oherwydd y mae dy farnau'n dda. Yr wyf yn dyheu am dy ofynion; adfywia fi â'th gyfiawnder. Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid; yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar, oherwydd ymddiriedais yn dy air. Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau, oherwydd fe obeithiais yn dy farnau. Cadwaf dy gyfraith bob amser, hyd byth bythoedd. Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd, oherwydd ceisiais dy ofynion. Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd, ac ni fydd arnaf gywilydd; ymhyfrydaf yn dy orchmynion am fy mod yn eu caru. Parchaf dy orchmynion am fy mod yn eu caru, a myfyriaf ar dy ddeddfau. Cofia dy air i'th was, y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo. Hyn fu fy nghysur mewn adfyd, fod dy addewid di yn fy adfywio. Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd, ond ni throis oddi wrth dy gyfraith. Yr wyf yn cofio dy farnau erioed, ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD. Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionus sy'n gwrthod dy gyfraith. Daeth dy ddeddfau'n gân i mi ymhle bynnag y bûm yn byw. Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD, ac fe gadwaf dy gyfraith. Hyn sydd wir amdanaf, imi ufuddhau i'th ofynion. Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD; addewais gadw dy air. Yr wyf yn erfyn arnat â'm holl galon, bydd drugarog wrthyf yn ôl dy addewid. Pan feddyliaf am fy ffyrdd, trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau; brysiaf, heb oedi, i gadw dy orchmynion. Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf, eto nid anghofiais dy gyfraith. Codaf ganol nos i'th foliannu di am dy farnau cyfiawn. Yr wyf yn gymar i bawb sy'n dy ofni, i'r rhai sy'n ufuddhau i'th ofynion. Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb; dysg i mi dy ddeddfau. Gwnaethost ddaioni i'th was, yn unol â'th air, O ARGLWYDD. Dysg imi ddirnadaeth a gwybodaeth, oherwydd yr wyf yn ymddiried yn dy orchmynion. Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn, ond yn awr yr wyf yn cadw dy air. Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni; dysg i mi dy ddeddfau. Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd, ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon; y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster, ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith. Mor dda yw imi gael fy ngheryddu, er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau! Y mae cyfraith dy enau yn well i mi na miloedd o aur ac arian. Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd; rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion. Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychant am fy mod yn gobeithio yn dy air. Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn, ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu. Bydded dy gariad yn gysur i mi, yn unol â'th addewid i'th was. Pâr i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw, oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi. Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio, ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion. Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi, iddynt gael gwybod dy farnedigaethau. Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau, rhag imi gael fy nghywilyddio. Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth, ac yn gobeithio yn dy air; y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid; dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?” Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg, eto nid anghofiaf dy ddeddfau. Am ba hyd y disgwyl dy was cyn iti roi barn ar fy erlidwyr? Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith, wedi cloddio pwll ar fy nghyfer. Y mae dy holl orchmynion yn sicr; pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi. Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear, ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion. Yn ôl dy gariad adfywia fi, ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau. Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol, wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth; seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw, oherwydd gweision i ti yw'r cyfan. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi, byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd; nid anghofiaf dy ofynion hyd byth, oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi. Eiddot ti ydwyf; gwareda fi, oherwydd ceisiais dy ofynion. Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio, ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau. Gwelaf fod popeth yn dod i ben, ond nid oes terfyn i'th orchymyn di. O fel yr wyf yn caru dy gyfraith! Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd. Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion, oherwydd y mae gyda mi bob amser. Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon, oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi. Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen, oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion. Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg, er mwyn imi gadw dy air. Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau, oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo. Mor felys yw dy addewid i'm genau, melysach na mêl i'm gwefusau. O'th ofynion di y caf ddeall; dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll. Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr. Tyngais lw, a gwneud adduned i gadw dy farnau cyfiawn. Yr wyf mewn gofid mawr; O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air. Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD, a dysg i mi dy farnedigaethau. Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo, ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith. Gosododd y drygionus rwyd i mi, ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion. Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth, oherwydd y maent yn llonder i'm calon. Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau; y mae eu gwobr yn dragwyddol. Yr wyf yn casáu rhai anwadal, ond yn caru dy gyfraith. Ti yw fy lloches a'm tarian; yr wyf yn gobeithio yn dy air. Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg, er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw. Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw, ac na chywilyddier fi yn fy hyder. Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth, imi barchu dy ddeddfau yn wastad. Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau, oherwydd mae eu twyll yn ofer. Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear; am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau. Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd, ac yr wyf yn ofni dy farnau. Gwneuthum farn a chyfiawnder; paid â'm gadael i'm gorthrymwyr. Bydd yn feichiau er lles dy was; paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu. Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth, ac am dy addewid o fuddugoliaeth. Gwna â'th was yn ôl dy gariad, a dysg i mi dy ddeddfau. Dy was wyf fi; rho imi ddeall i wybod dy farnedigaethau. Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu, oherwydd torrwyd dy gyfraith. Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynion yn fwy nag aur, nag aur coeth. Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion, a chasâf lwybrau twyll. Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol; am hynny yr wyf yn eu cadw. Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuo ac yn rhoi deall i'r syml. Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys, oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion. Tro ataf a bydd drugarog, yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw. Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist, a phaid â gadael i ddrygioni fy meistroli. Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol, er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was, a dysg i mi dy ddeddfau. Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrau am nad yw pobl yn cadw dy gyfraith. Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD, a chywir yw dy farnau. Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawn ac yn gwbl ffyddlon. Y mae fy nghynddaredd yn fy ysu am fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau. Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr, ac y mae dy was yn ei charu. Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod, nid wyf yn anghofio dy ofynion. Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol, ac y mae dy gyfraith yn wirionedd. Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf, ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion. Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth; rho imi ddeall, fel y byddaf fyw. Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD, ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau. Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi, ac fe gadwaf dy farnedigaethau. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth, a gobeithiaf yn dy eiriau. Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos, i fyfyrio ar dy addewid. Gwrando fy llef yn ôl dy gariad; O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi. Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu, ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith. Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD, ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd. Gwn erioed am dy farnedigaethau, i ti eu sefydlu am byth. Edrych ar fy adfyd a gwared fi, oherwydd nid anghofiais dy gyfraith. Amddiffyn fy achos ac achub fi; adfywia fi yn ôl dy addewid. Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus, oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau. Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD; adfywia fi yn ôl dy farn. Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus, ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau. Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiais am nad ydynt yn cadw dy air. Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion; O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad. Hanfod dy air yw gwirionedd, ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol. Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos, ond dy air di yw arswyd fy nghalon. Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid, fel un sy'n cael ysbail fawr. Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll, ond yn caru dy gyfraith di. Seithwaith y dydd yr wyf yn dy foli oherwydd dy farnau cyfiawn. Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch, ac nid oes dim yn peri iddynt faglu. Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ufuddhau i'th orchmynion. Yr wyf yn cadw dy farnedigaethau ac yn eu caru'n fawr. Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau, oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen. Doed fy llef atat, O ARGLWYDD; rho imi ddeall yn ôl dy air. Doed fy neisyfiad atat; gwared fi yn ôl dy addewid. Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant am iti ddysgu i mi dy ddeddfau. Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid, oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn. Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo, oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion. Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith. Gad imi fyw i'th foliannu di, a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo. Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll; chwilia am dy was, oherwydd nid anghofiais dy orchmynion.

Salm 119:1-176 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon. Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef. Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal. O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau! Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion. Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder. Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i’th erbyn. Ti, ARGLWYDD, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau. A’m gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau. Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â’r holl olud. Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf. Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air. Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air. Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di. Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion. Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser. Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion. Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais. Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau. A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr. Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. Glynais wrth dy dystiolaethau: O ARGLWYDD, na’m gwaradwydda. Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon. Dysg i mi, O ARGLWYDD, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd. Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â’m holl galon. Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys. Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd-dra. Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd. Sicrha dy air i’th was, yr hwn sydd yn ymroddi i’th ofn di. Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda. Wele, awyddus ydwyf i’th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder. Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau. Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio. Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i. Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di. Cofiais, O ARGLWYDD, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais. Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di. Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod. Cofiais dy enw, ARGLWYDD, y nos; a chedwais dy gyfraith. Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di. O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau. Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air. Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di. Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion. Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di. Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder. Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion. Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau. Gwnaethost yn dda â’th was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air. Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian. Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion. Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di. Gwn, ARGLWYDD, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist. Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr. Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch. Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di. Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau. Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier. Diffygiodd fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl. Y mae fy llygaid yn pallu am dy air, gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni? Canys ydwyf fel costrel mewn mwg; ond nid anghofiais dy ddeddfau. Pa nifer yw dyddiau dy was? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant? Y beilchion a gloddiasant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di. Dy holl orchmynion ydynt wirionedd: ar gam y’m herlidiasant; cymorth fi. Braidd na’m difasant ar y ddaear; minnau ni adewais dy orchmynion. Bywha fi yn ôl dy drugaredd; felly y cadwaf dystiolaeth dy enau. Yn dragywydd, O ARGLWYDD, y mae dy air wedi ei sicrhau yn y nefoedd. Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: seiliaist y ddaear, a hi a saif. Wrth dy farnedigaethau y safant heddiw: canys dy weision yw pob peth. Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna amdanaf yn fy nghystudd. Byth nid anghofiaf dy orchmynion: canys â hwynt y’m bywheaist. Eiddot ti ydwyf, cadw fi: oherwydd dy orchmynion a geisiais. Yr rhai annuwiol a ddisgwyliasant amdanaf i’m difetha: ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi. Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd: ond dy orchymyn di sydd dra eang. Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd. A’th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na’m gelynion: canys byth y maent gyda mi. Deellais fwy na’m holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod. Deellais yn well na’r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di. Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di. Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau: oherwydd ti a’m dysgaist. Mor felys yw dy eiriau i’m genau! melysach na mêl i’m safn. Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr. Llusern yw dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr. Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder. Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O ARGLWYDD, yn ôl dy air. Atolwg, ARGLWYDD, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau. Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith. Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion. Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt. Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd. Meddyliau ofer a gaseais: a’th gyfraith di a hoffais. Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf. Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy NUW. Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith. Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol. Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt. Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau. Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau. Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrymwyr. Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i’r beilchion fy ngorthrymu. Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder. Gwna i’th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau. Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau. Amser yw i’r ARGLWYDD weithio: diddymasant dy gyfraith di. Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth. Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr. Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt. Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar. Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i’th orchmynion di. Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf, yn ôl dy arfer i’r rhai a garant dy enw. Cyfarwydda fy nghamre yn dy air: ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf. Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion: felly y cadwaf dy orchmynion. Llewyrcha dy wyneb ar dy was: a dysg i mi dy ddeddfau. Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di. Cyfiawn ydwyt ti, O ARGLWYDD, ac uniawn yw dy farnedigaethau. Dy dystiolaethau y rhai a orchmynnaist, ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn. Fy sêl a’m difaodd; oherwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di. Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: am hynny y mae dy was yn ei hoffi. Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion. Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a’th gyfraith sydd wirionedd. Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch. Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf. Llefais â’m holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf. Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau. Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais. Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di. Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di. Tithau, ARGLWYDD, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd. Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd. Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith. Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air. Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di. Dy drugareddau, ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau. Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di. Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd. Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd. Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di. Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer. Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais. Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau. Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt. Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion. Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt. Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di. Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air. Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air. Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau. Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder. Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais. Hiraethais, O ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch. Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi. Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.