Salm 119:1-10
Salm 119:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau, ac yn ei geisio ef â'u holl galon, y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg, ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef. Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfau i'w cadw'n ddyfal. O na allwn gerdded yn unionsyth a chadw dy ddeddfau! Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaid ar dy holl orchmynion. Fe'th glodforaf di â chalon gywir wrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn. Fe gadwaf dy ddeddfau; paid â'm gadael yn llwyr. Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân? Trwy gadw dy air di. Fe'th geisiais di â'm holl galon; paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.
Salm 119:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r rhai sy’n byw yn iawn, ac yn gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud wedi’u bendithio’n fawr! Mae’r rhai sy’n gwneud beth mae’n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi’u bendithio’n fawr! Dŷn nhw’n gwneud dim drwg, ond yn ymddwyn fel mae e eisiau. Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion i gael eu cadw’n ofalus. O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn fel mae dy ddeddfau di’n dweud! Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd wrth feddwl am dy orchmynion di. Dw i’n diolch i ti o waelod calon wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau. Dw i’n mynd i gadw dy ddeddfau; felly paid troi cefn arna i’n llwyr! Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti’n dweud. Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.
Salm 119:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn fyd y rhai perffaith eu ffordd, y rhai a rodiant yng nghyfraith yr ARGLWYDD. Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef; ac a’i ceisiant ef â’u holl galon. Y rhai hefyd ni wnânt anwiredd, hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef. Ti a orchmynnaist gadw dy orchmynion yn ddyfal. O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau! Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchmynion. Clodforaf di ag uniondeb calon, pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder. Cadwaf dy ddeddfau; O na ad fi yn hollol. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. A’m holl galon y’th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.