Salm 118:15-29
Salm 118:15-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywch gân gwaredigaeth ym mhebyll y rhai cyfiawn: “Y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus; y mae deheulaw'r ARGLWYDD wedi ei chodi; y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus.” Nid marw ond byw fyddaf, ac adroddaf am weithredoedd yr ARGLWYDD. Disgyblodd yr ARGLWYDD fi'n llym, ond ni roddodd fi yn nwylo marwolaeth. Agorwch byrth cyfiawnder i mi; dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD. Dyma borth yr ARGLWYDD; y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo. Diolchaf i ti am fy ngwrando a dod yn waredigaeth i mi. Y maen a wrthododd yr adeiladwyr a ddaeth yn brif gonglfaen. Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn, ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg. Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo. Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni; yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant. Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r ARGLWYDD. Bendithiwn chwi o dŷ'r ARGLWYDD. Yr ARGLWYDD sydd Dduw, rhoes oleuni i mi. Â changau ymunwch yn yr orymdaith hyd at gyrn yr allor. Ti yw fy Nuw, a rhoddaf ddiolch i ti; fy Nuw, fe'th ddyrchafaf di. Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw, ac y mae ei gariad hyd byth.
Salm 118:15-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae pobl Dduw i’w clywed yn canu am y fuddugoliaeth yn eu pebyll, “Mae’r ARGLWYDD mor gryf! Mae’r ARGLWYDD yn fuddugol! Mae’r ARGLWYDD mor gryf!” Dw i’n fyw! Wnes i ddim marw! Bydda i’n dweud beth wnaeth yr ARGLWYDD! Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghosbi’n llym, ond wnaeth e ddim gadael i mi gael fy lladd. Agorwch giatiau cyfiawnder i mi er mwyn i mi fynd i mewn i ddiolch i’r ARGLWYDD! Giât yr ARGLWYDD ydy hon – dim ond y rhai cyfiawn sy’n cael mynd drwyddi. Diolch i ti am ateb fy ngweddi, ac am fy achub i. Mae’r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen. Yr ARGLWYDD wnaeth hyn, mae’r peth yn rhyfeddol yn ein golwg! Mae heddiw’n ddiwrnod i’r ARGLWYDD – gadewch i ni ddathlu a bod yn llawen! O ARGLWYDD, plîs achub ni! O ARGLWYDD, gwna i ni lwyddo! Mae’r un sy’n dod i gynrychioli’r ARGLWYDD wedi’i fendithio’n fawr – Bendith arnoch chi i gyd o deml yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD ydy’r Duw go iawn, ac mae wedi rhoi ei olau i ni. Gadewch i ni ddathlu! Ewch at yr allor gyda changhennau coed palmwydd. Ti ydy fy Nuw i a dw i’n diolch i ti! Ti ydy fy Nuw i a dw i’n dy ganmol di! Diolchwch i’r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni! “Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
Salm 118:15-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster. Deheulaw yr ARGLWYDD a ddyrchafwyd: deheulaw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur grymuster. Ni byddaf farw, ond byw; a mynegaf weithredoedd yr ARGLWYDD. Gan gosbi y’m cosbodd yr ARGLWYDD: ond ni’m rhoddodd i farwolaeth. Agorwch i mi byrth cyfiawnder: af i mewn iddynt, a chlodforaf yr ARGLWYDD. Dyma borth yr ARGLWYDD; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo. Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a’th fod yn iachawdwriaeth i mi. Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i’r gongl. O’r ARGLWYDD y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni. Dyma y dydd a wnaeth yr ARGLWYDD; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo. Atolwg, ARGLWYDD, achub yn awr: atolwg, ARGLWYDD pâr yn awr lwyddiant. Bendigedig yw a ddêl yn enw yr ARGLWYDD: bendithiasom chwi o dŷ yr ARGLWYDD. DUW yw yr ARGLWYDD, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor. Fy NUW ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy NUW. Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.