Salm 115:1-8
Salm 115:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Nid ni, O ARGLWYDD, nid ni – ti sy’n haeddu’r anrhydedd i gyd, am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb. Pam ddylai pobl y cenhedloedd ddweud, “Ble mae eu Duw nhw nawr?” Y gwir ydy fod Duw yn y nefoedd, ac yn gwneud beth bynnag mae e eisiau! Dydy eu heilunod nhw’n ddim ond arian ac aur wedi’u siapio gan ddwylo dynol. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld; clustiau, ond allan nhw ddim clywed; trwynau, ond allan nhw ddim arogli; dwylo, ond allan nhw ddim teimlo; traed, ond allan nhw ddim cerdded; a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn! Mae’r bobl sy’n eu gwneud nhw, a’r bobl sydd yn eu haddoli nhw, yn troi’n debyg iddyn nhw!
Salm 115:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i'th enw dy hun, rho ogoniant, er mwyn dy gariad a'th ffyddlondeb. Pam y mae'r cenhedloedd yn dweud, “Ple mae eu Duw?” Y mae ein Duw ni yn y nefoedd; fe wna beth bynnag a ddymuna. Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud â dwylo dynol. Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld; y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli; y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau. Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt, ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.
Salm 115:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu DUW hwynt? Ond ein DUW ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf. Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.