Salm 115:1-18
Salm 115:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Nid ni, O ARGLWYDD, nid ni – ti sy’n haeddu’r anrhydedd i gyd, am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb. Pam ddylai pobl y cenhedloedd ddweud, “Ble mae eu Duw nhw nawr?” Y gwir ydy fod Duw yn y nefoedd, ac yn gwneud beth bynnag mae e eisiau! Dydy eu heilunod nhw’n ddim ond arian ac aur wedi’u siapio gan ddwylo dynol. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad; llygaid, ond allan nhw ddim gweld; clustiau, ond allan nhw ddim clywed; trwynau, ond allan nhw ddim arogli; dwylo, ond allan nhw ddim teimlo; traed, ond allan nhw ddim cerdded; a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn! Mae’r bobl sy’n eu gwneud nhw, a’r bobl sydd yn eu haddoli nhw, yn troi’n debyg iddyn nhw! Israel, cred di yn yr ARGLWYDD! Fe sy’n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di. Chi offeiriaid, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy’n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi. Chi sy’n addoli’r ARGLWYDD, credwch yn yr ARGLWYDD! Fe sy’n eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi. Mae’r ARGLWYDD yn cofio amdanon ni, a bydd yn ein bendithio ni – bydd yn bendithio pobl Israel; bydd yn bendithio teulu Aaron; bydd yn bendithio’r rhai sy’n addoli’r ARGLWYDD, yn ifanc ac yn hen. Boed i’r ARGLWYDD roi plant i chi; ie, i chi a’ch plant hefyd! Boed i’r ARGLWYDD, wnaeth greu’r nefoedd a’r ddaear, eich bendithio chi! Yr ARGLWYDD sydd biau’r nefoedd, ond mae wedi rhoi’r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth. Dydy’r meirw ddim yn gallu moli’r ARGLWYDD, maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd. Ond dŷn ni’n mynd i foli’r ARGLWYDD o hyn allan, ac am byth! Haleliwia!
Salm 115:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i'th enw dy hun, rho ogoniant, er mwyn dy gariad a'th ffyddlondeb. Pam y mae'r cenhedloedd yn dweud, “Ple mae eu Duw?” Y mae ein Duw ni yn y nefoedd; fe wna beth bynnag a ddymuna. Arian ac aur yw eu delwau hwy, ac wedi eu gwneud â dwylo dynol. Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad, a llygaid nad ydynt yn gweld; y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed, a ffroenau nad ydynt yn arogli; y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo, a thraed nad ydynt yn cerdded; ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau. Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt, ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt. O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian. O dŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian. Chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD. Ef yw eu cymorth a'u tarian. Y mae'r ARGLWYDD yn ein cofio ac yn ein bendithio; fe fendithia dŷ Israel, fe fendithia dŷ Aaron, fe fendithia'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD, y bychan a'r mawr fel ei gilydd. Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau, chwi a'ch plant hefyd. Bydded ichwi gael bendith gan yr ARGLWYDD a wnaeth nefoedd a daear. Y nefoedd, eiddo'r ARGLWYDD yw, ond fe roes y ddaear i ddynolryw. Nid yw'r meirw yn moliannu'r ARGLWYDD, na'r holl rai sy'n mynd i lawr i dawelwch. Ond yr ydym ni'n bendithio'r ARGLWYDD yn awr a hyd byth. Molwch yr ARGLWYDD.
Salm 115:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu DUW hwynt? Ond ein DUW ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf. Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt. O Israel, ymddiried di yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a’u tarian. Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a’u tarian. Y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a’u tarian. Yr ARGLWYDD a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron. Bendithia efe y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fychain a mawrion. Yr ARGLWYDD a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd. Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nef a daear. Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr ARGLWYDD: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion. Y meirw ni foliannant yr ARGLWYDD, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd. Ond nyni a fendithiwn yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.