Salm 111:7-10
Salm 111:7-10 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn. Mae’r pethau mae’n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy, ac yn sefyll am byth. Maen nhw’n ffyddlon ac yn deg. Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd, ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser. Mae ei enw’n sanctaidd ac i gael ei barchu. Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf i fod yn ddoeth. Mae pawb sy’n gwneud hynny yn gwneud y peth call. Mae e’n haeddu ei foli am byth!
Salm 111:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn, a'i holl orchmynion yn ddibynadwy; y maent wedi eu sefydlu hyd byth, ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb. Rhoes waredigaeth i'w bobl, a gorchymyn ei gyfamod dros byth. Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw. Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; y mae deall da gan bawb sy'n ufudd. Y mae ei foliant yn para byth.
Salm 111:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.