Salm 111:1-10
Salm 111:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Haleliwia! Dw i’n diolch i’r ARGLWYDD o waelod calon, o flaen y gynulleidfa o’i bobl ffyddlon. Mae’r ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr! Maen nhw’n bleser pur i bawb sy’n myfyrio arnyn nhw. Mae’r cwbl yn dangos ei ysblander a’i urddas, a’i fod e bob amser yn ffyddlon. Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae’n eu gwneud! Mae’r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog! Mae e’n rhoi bwyd i’w rai ffyddlon; mae bob amser yn cofio’r ymrwymiad wnaeth e. Dwedodd wrth ei bobl y byddai’n gwneud pethau mawr, a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw. Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn. Mae’r pethau mae’n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy, ac yn sefyll am byth. Maen nhw’n ffyddlon ac yn deg. Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd, ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser. Mae ei enw’n sanctaidd ac i gael ei barchu. Parchu’r ARGLWYDD ydy’r cam cyntaf i fod yn ddoeth. Mae pawb sy’n gwneud hynny yn gwneud y peth call. Mae e’n haeddu ei foli am byth!
Salm 111:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Molwch yr ARGLWYDD. Diolchaf i'r ARGLWYDD â'm holl galon yng nghwmni'r uniawn, yn y gynulleidfa. Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt. Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith, a saif ei gyfiawnder am byth. Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau; graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD. Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni, ac yn cofio ei gyfamod am byth. Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoedd trwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn, a'i holl orchmynion yn ddibynadwy; y maent wedi eu sefydlu hyd byth, ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb. Rhoes waredigaeth i'w bobl, a gorchymyn ei gyfamod dros byth. Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw. Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; y mae deall da gan bawb sy'n ufudd. Y mae ei foliant yn para byth.
Salm 111:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Molwch yr ARGLWYDD. Clodforaf yr ARGLWYDD â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa. Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant. Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr ARGLWYDD. Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd. Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. Dechreuad doethineb yw ofn yr ARGLWYDD: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.