Salm 107:5-9
Salm 107:5-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw, ac roedden nhw wedi colli pob egni. Dyma nhw’n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini, a dyma fe’n eu hachub o’u trafferthion, ac yn eu harwain nhw’n syth i le y gallen nhw setlo i lawr ynddo. Gadewch iddyn nhw ddiolch i’r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon, a’r pethau rhyfeddol mae wedi’u gwneud ar ran pobl! Mae wedi rhoi diod i’r sychedig, a bwyd da i’r rhai oedd yn llwgu.
Salm 107:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
yr oeddent yn newynog ac yn sychedig, ac yr oedd eu nerth yn pallu. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder, a gwaredodd hwy o'u hadfyd; arweiniodd hwy ar hyd ffordd union i fynd i ddinas i fyw ynddi. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad, ac am ei ryfeddodau i ddynolryw. Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig, a llenwi'r newynog â phethau daionus.
Salm 107:5-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. Yna y llefasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. O na foliannent yr ARGLWYDD am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.