Salm 106:19-23
Salm 106:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaethant lo yn Horeb, ac ymgrymu i'r ddelw, gan newid yr un oedd yn ogoniant iddynt am ddelw o ych yn pori gwellt. Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd, a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft, pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham, a phethau ofnadwy ger y Môr Coch. Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio, oni bai i Moses, yr un a ddewisodd, sefyll yn y bwlch o'i flaen, i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.
Salm 106:19-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn dyma nhw’n gwneud eilun o darw yn Sinai, a phlygu i addoli delw o fetel! Cyfnewid y Duw bendigedig am ddelw o ych sy’n bwyta glaswellt. Roedden nhw wedi anghofio’r Duw achubodd nhw! Anghofio’r Duw wnaeth bethau mor fawr yn yr Aifft – y gwyrthiau rhyfeddol yn nhir Cham, a’r pethau anhygoel wrth y Môr Coch. Pan oedd Duw yn bygwth eu dinistrio nhw, dyma Moses, y dyn oedd wedi’i ddewis, yn sefyll yn y bwlch ac yn troi ei lid i ffwrdd oddi wrthyn nhw.
Salm 106:19-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd. Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt. Anghofiasant DDUW eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft; Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch. Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.