Salm 105:16-19
Salm 105:16-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wedyn daeth newyn ar y wlad; cymerodd eu bwyd oddi arnyn nhw. Ond roedd wedi anfon un o’u blaenau, sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas. Roedd ei draed mewn cyffion; roedd coler haearn am ei wddf, nes i’w eiriau ddod yn wir ac i neges yr ARGLWYDD ei brofi’n iawn.
Salm 105:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan alwodd am newyn dros y wlad, a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara, yr oedd wedi anfon gŵr o'u blaenau, Joseff, a werthwyd yn gaethwas. Doluriwyd ei draed yn y cyffion, a rhoesant haearn am ei wddf, nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir, ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.
Salm 105:16-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara. Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was. Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn: Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr ARGLWYDD a’i profodd ef.