Salm 103:8-10
Salm 103:8-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r ARGLWYDD mor drugarog a charedig, mor amyneddgar ac anhygoel o hael! Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd, nac yn dal dig am byth. Wnaeth e ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu, na thalu’n ôl i ni am ein holl fethiant.
Rhanna
Darllen Salm 103Salm 103:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb. Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd, nac yn meithrin ei ddicter am byth. Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau, ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau.
Rhanna
Darllen Salm 103Salm 103:8-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd. Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint. Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni.
Rhanna
Darllen Salm 103