Salm 103:10-12
Salm 103:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wnaeth e ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu, na thalu’n ôl i ni am ein holl fethiant. Fel mae’r nefoedd yn uchel uwchben y ddaear, mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy’n ei barchu. Mor bell ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin, mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
Salm 103:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau, ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau. Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear, y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni; cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewin y pellhaodd ein pechodau oddi wrthym.
Salm 103:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni. Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef. Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.