Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 103:1-22

Salm 103:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Y cwbl ohono i, bendithia’i enw sanctaidd. Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Paid anghofio’r holl bethau caredig a wnaeth. Mae wedi maddau dy fethiant i gyd, ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat. Mae wedi dy gadw di rhag mynd i’r bedd, ac wedi dy goroni gyda’i gariad a’i drugaredd. Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti, nes gwneud i ti deimlo’n ifanc eto, yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr! Mae’r ARGLWYDD bob amser yn deg, ac yn rhoi cyfiawnder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu. Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw, a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud. Mae’r ARGLWYDD mor drugarog a charedig, mor amyneddgar ac anhygoel o hael! Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd, nac yn dal dig am byth. Wnaeth e ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu, na thalu’n ôl i ni am ein holl fethiant. Fel mae’r nefoedd yn uchel uwchben y ddaear, mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy’n ei barchu. Mor bell ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin, mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela. Fel mae tad yn caru ei blant, mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n ei barchu. Ydy, mae e’n gwybod am ein defnydd ni; mae’n cofio mai dim ond pridd ydyn ni. Mae bywyd dynol fel glaswellt – mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro; pan mae’r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd; lle roedd gynt, does dim sôn amdano. Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy’n ei barchu yn para am byth bythoedd! Mae e’n cadw ei air i genedlaethau o blant – sef y rhai sy’n ffyddlon i’w ymrwymiad ac sy’n gofalu gwneud beth mae e’n ddweud. Mae’r ARGLWYDD wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd, ac mae’n teyrnasu yn frenin dros bopeth! Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion – chi, rai cryfion sy’n gwneud beth mae’n ei ddweud, sy’n gwrando ac yn ufudd iddo. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl fyddinoedd – chi weision sy’n ei wasanaethu. Bendithiwch yr ARGLWYDD, bopeth mae wedi’i greu – ym mhobman lle mae e’n teyrnasu. Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD!

Salm 103:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio'i holl ddoniau: ef sy'n maddau fy holl gamweddau, yn iacháu fy holl afiechyd; ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll, ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd; ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiau i adnewyddu fy ieuenctid fel eryr. Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawnder a barn i'r holl rai gorthrymedig. Dysgodd ei ffyrdd i Moses, a'i weithredoedd i blant Israel. Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb. Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd, nac yn meithrin ei ddicter am byth. Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau, ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau. Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear, y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni; cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewin y pellhaodd ein pechodau oddi wrthym. Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant, felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni. Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd, yn cofio mai llwch ydym. Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn; y mae'n blodeuo fel blodeuyn y maes— pan â'r gwynt drosto fe ddiflanna, ac nid yw ei le'n ei adnabod mwyach. Ond y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb ar y rhai sy'n ei ofni, a'i gyfiawnder i blant eu plant, i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod, yn cofio'i orchmynion ac yn ufuddhau. Gosododd yr ARGLWYDD ei orsedd yn y nefoedd, ac y mae ei frenhiniaeth ef yn rheoli pob peth. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion, y rhai cedyrn sy'n gwneud ei air, ac yn ufuddhau i'w eiriau. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd, ei weision sy'n gwneud ei ewyllys. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd, ym mhob man o dan ei lywodraeth. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.

Salm 103:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef. Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef: Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd: Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr. Yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel. Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd. Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint. Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni. Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef. Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym. Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef. Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym. Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe. Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy. Ond trugaredd yr ARGLWYDD sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder i blant eu plant; I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur. Yr ARGLWYDD a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd ef; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD.