Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 103:1-18

Salm 103:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Y cwbl ohono i, bendithia’i enw sanctaidd. Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Paid anghofio’r holl bethau caredig a wnaeth. Mae wedi maddau dy fethiant i gyd, ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat. Mae wedi dy gadw di rhag mynd i’r bedd, ac wedi dy goroni gyda’i gariad a’i drugaredd. Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti, nes gwneud i ti deimlo’n ifanc eto, yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr! Mae’r ARGLWYDD bob amser yn deg, ac yn rhoi cyfiawnder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu. Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw, a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud. Mae’r ARGLWYDD mor drugarog a charedig, mor amyneddgar ac anhygoel o hael! Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd, nac yn dal dig am byth. Wnaeth e ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu, na thalu’n ôl i ni am ein holl fethiant. Fel mae’r nefoedd yn uchel uwchben y ddaear, mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy’n ei barchu. Mor bell ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin, mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela. Fel mae tad yn caru ei blant, mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n ei barchu. Ydy, mae e’n gwybod am ein defnydd ni; mae’n cofio mai dim ond pridd ydyn ni. Mae bywyd dynol fel glaswellt – mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro; pan mae’r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd; lle roedd gynt, does dim sôn amdano. Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy’n ei barchu yn para am byth bythoedd! Mae e’n cadw ei air i genedlaethau o blant – sef y rhai sy’n ffyddlon i’w ymrwymiad ac sy’n gofalu gwneud beth mae e’n ddweud.

Salm 103:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef. Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef: Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd: Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr. Yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel. Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd. Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint. Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni. Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef. Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym. Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr ARGLWYDD wrth y rhai a’i hofnant ef. Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym. Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe. Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy. Ond trugaredd yr ARGLWYDD sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder i blant eu plant; I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur.