Salm 103:1-12
Salm 103:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Y cwbl ohono i, bendithia’i enw sanctaidd. Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Paid anghofio’r holl bethau caredig a wnaeth. Mae wedi maddau dy fethiant i gyd, ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat. Mae wedi dy gadw di rhag mynd i’r bedd, ac wedi dy goroni gyda’i gariad a’i drugaredd. Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti, nes gwneud i ti deimlo’n ifanc eto, yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr! Mae’r ARGLWYDD bob amser yn deg, ac yn rhoi cyfiawnder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu. Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw, a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud. Mae’r ARGLWYDD mor drugarog a charedig, mor amyneddgar ac anhygoel o hael! Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd, nac yn dal dig am byth. Wnaeth e ddim delio gyda’n pechodau ni fel roedden ni’n haeddu, na thalu’n ôl i ni am ein holl fethiant. Fel mae’r nefoedd yn uchel uwchben y ddaear, mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy’n ei barchu. Mor bell ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin, mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
Salm 103:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD, a phaid ag anghofio'i holl ddoniau: ef sy'n maddau fy holl gamweddau, yn iacháu fy holl afiechyd; ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll, ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd; ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiau i adnewyddu fy ieuenctid fel eryr. Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawnder a barn i'r holl rai gorthrymedig. Dysgodd ei ffyrdd i Moses, a'i weithredoedd i blant Israel. Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb. Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd, nac yn meithrin ei ddicter am byth. Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau, ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau. Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear, y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni; cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewin y pellhaodd ein pechodau oddi wrthym.
Salm 103:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef. Fy enaid, bendithia yr ARGLWYDD; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef: Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd: Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr. Yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel. Trugarog a graslon yw yr ARGLWYDD; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd. Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint. Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni. Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef. Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.