Salm 10:16-18
Salm 10:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r ARGLWYDD yn frenin am byth a bydd y cenhedloedd yn diflannu o’r tir! Ti’n gwrando ar lais y rhai sy’n cael eu gorthrymu yn crefu arnat, O ARGLWYDD. Byddan nhw’n teimlo’n saff am dy fod ti’n gwrando arnyn nhw. Unwaith eto byddi’n rhoi cyfiawnder i’r amddifad a’r rhai sy’n cael eu sathru; byddi’n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu.
Salm 10:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin byth bythoedd; difethir y cenhedloedd o'i dir. Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus; yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt, yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig, rhag i feidrolion beri ofn mwyach.
Salm 10:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr ARGLWYDD sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef. ARGLWYDD, clywaist ddymuniad y tlodion: paratöi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt; I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.