Salm 1:1-3
Salm 1:1-3 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg wedi’i fendithio’n fawr; yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid, nac yn eistedd gyda’r rhai sy’n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill; yr un sydd wrth ei fodd yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau, ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos. Bydd fel coeden wedi’i phlannu wrth ffrydiau o ddŵr, yn dwyn ffrwyth yn ei thymor, a’i dail byth yn gwywo. Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo.
Salm 1:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyn ei fyd y sawl nad yw'n dilyn cyngor y drygionus nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr, ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. Y mae fel pren wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor, a'i ddeilen heb fod yn gwywo. Beth bynnag a wna, fe lwydda.
Salm 1:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn ei fyd y gŵr ni rodia yng nghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid, ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwyr. Ond sydd â’i ewyllys yng nghyfraith yr ARGLWYDD; ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd; a’i ddalen ni wywa; a pha beth bynnag a wnêl, efe a lwydda.