Diarhebion 9:6-9
Diarhebion 9:6-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw; dechreuwch gerdded ffordd gall.” Ceisia gywiro rhywun balch sy’n gwawdio a chei lond ceg! Cerydda rywun drwg a byddi’n cael dy gam-drin. Cerydda’r un balch sy’n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di; ond os gwnei di geryddu’r doeth bydd e’n diolch i ti. Rho gyngor i’r doeth, a byddan nhw’n ddoethach; dysga’r rhai sy’n byw yn iawn a byddan nhw’n dysgu mwy.
Diarhebion 9:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw; rhodiwch yn ffordd deall.” Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr, a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus. Paid â cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gasáu; cerydda'r doeth, ac fe'th gâr di. Rho gyngor i'r doeth, ac fe â'n ddoethach; dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
Diarhebion 9:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymadewch â’r rhai ffôl, a byddwch fyw; a cherddwch yn ffordd deall. Yr hwn a geryddo watwarwr, a gaiff waradwydd iddo ei hun: a’r hwn a feio ar y drygionus, a gaiff anaf. Na cherydda watwarwr, rhag iddo dy gasáu: cerydda y doeth, ac efe a’th gâr di. Dyro addysg i’r doeth, ac efe fydd doethach: dysg y cyfiawn, ac efe a chwanega ei ddysgeidiaeth.