Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 7:1-27

Diarhebion 7:1-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Fy mab, gwna beth dw i’n ddweud, a thrysori’r hyn dw i’n ei orchymyn. Gwna beth dw i’n ei orchymyn, i ti gael bywyd da; paid tynnu dy lygad oddi ar y pethau dw i’n eu dysgu. Cadw nhw fel modrwy ar dy fys; ysgrifenna nhw ar lech dy galon. Dwed wrth ddoethineb, “Ti fel chwaer i mi,” a gwna gyngor doeth yn ffrind gorau. Bydd yn dy warchod di rhag y wraig anfoesol; rhag yr un lac ei moesau sy’n fflyrtian drwy’r adeg. Rôn i’n sefyll yn y tŷ, ac yn edrych allan drwy’r ffenest. Gwelais fachgen ifanc a dim sens ganddo gyda chriw gwyllt o bobl ifanc. Roedd yn croesi’r stryd at y groesffordd sy’n arwain at ei thŷ hi. Roedd hi’n hwyr yn y dydd, ac yn dechrau nosi a thywyllu. Yn sydyn, dyma’r wraig yn dod allan i’w gyfarfod, wedi’i gwisgo fel putain – roedd ei bwriad hi’n amlwg. (Dynes swnllyd, ddigywilydd, sydd byth yn aros adre. Ar y stryd un funud, yn y sgwâr y funud nesa, yn loetran ar bob cornel.) Mae hi’n gafael yn y bachgen a’i gusanu, ac yn dweud yn bowld: “Tyrd, mae gen i fwyd adre – cig yr offrwm rois i; dw i wedi gwneud popeth oedd ei angen. A dyma fi, wedi dod allan i dy gyfarfod di – roeddwn i’n edrych amdanat ti, a dyma ti! Dw i wedi paratoi’r gwely! Mae yna gynfasau glân arno, a chwilt lliwgar, hyfryd o’r Aifft. Mae’n arogli’n hyfryd o bersawr – myrr, aloes, a sinamon. Tyrd, gad i ni ymgolli mewn pleserau rhywiol; mwynhau ein hunain yn caru drwy’r nos. Dydy’r gŵr ddim adre – mae e wedi mynd ar daith bell. Mae e wedi mynd gyda’i arian, ar fusnes, a fydd e ddim yn ôl tan ddiwedd y mis.” Dyma hi’n llwyddo i’w berswadio; roedd wedi’i ddenu gyda’i fflyrtian. Dyma’r llanc yn mynd ar ei hôl ar unwaith, fel ych yn mynd i’r lladd-dy, neu garw yn neidio i drap cyn i saeth ei drywanu! Roedd fel aderyn wedi hedfan yn syth i’r rhwyd, heb sylweddoli ei fod yn mynd i golli ei fywyd. Nawr gwrandwch arna i, fechgyn; gwrandwch yn ofalus ar beth dw i’n ddweud: peidiwch hyd yn oed meddwl amdani; peidiwch mynd yn agos ati. Mae hi wedi achosi i lawer un syrthio; mae yna fyddin o ddynion cryf wedi diodde! Mae ei thŷ hi yn draffordd i’r bedd, a’i ystafell wely yn siambr marwolaeth!

Diarhebion 7:1-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy mab, cadw fy ngeiriau, a thrysora fy ngorchmynion. Cadw fy ngorchmynion, iti gael byw, a boed fy nghyfarwyddyd fel cannwyll dy lygad. Rhwym hwy am dy fysedd, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. Dywed wrth ddoethineb, “Fy chwaer wyt ti”, a chyfarch ddeall fel câr, i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr, a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus. Yr oeddwn yn ffenestr fy nhŷ, yn edrych allan trwy'r dellt ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion; a gwelais yn eu plith un disynnwyr yn mynd heibio i gornel y stryd, ac yn troi i gyfeiriad ei thŷ yn y cyfnos, yn hwyr y dydd, pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu. Daeth dynes i'w gyfarfod, wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw— un benchwiban a gwamal, nad yw byth yn aros gartref, weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgwâr, yn llercian ym mhob cornel— y mae'n cydio ynddo ac yn ei gusanu, ac yn ddigon wynebgaled i ddweud wrtho, “Roedd yn rhaid imi offrymu heddoffrymau, ac rwyf newydd gyflawni f'addewid; am hynny y deuthum allan i'th gyfarfod ac i chwilio amdanat, a dyma fi wedi dy gael. Taenais ar fy ngwely gwrlid o frethyn lliwgar yr Aifft; ac rwyf wedi persawru fy ngwely â myrr, aloes a sinamon. Tyrd, gad inni ymgolli mewn cariad tan y bore, a chael mwynhad wrth garu. Oherwydd nid yw'r gŵr gartref; fe aeth ar daith bell. Cymerodd god o arian gydag ef, ac ni fydd yn ôl nes y bydd y lleuad yn llawn.” Y mae'n ei ddenu â'i pherswâd, ac yn ei hudo â'i geiriau gwenieithus. Y mae yntau'n ei dilyn heb oedi, fel ych yn mynd i'r lladd-dy, fel carw yn neidio i'r rhwyd cyn i'r saeth ei drywanu i'r byw, fel aderyn yn hedeg yn syth i'r fagl heb wybod fod ei einioes mewn perygl. Yn awr, blant, gwrandewch arnaf, a rhowch sylw i'm geiriau. Paid â gadael i'th galon dy ddenu i'w ffyrdd, a phaid â chrwydro i'w llwybrau; oherwydd y mae wedi taro llawer yn gelain, a lladdwyd nifer mawr ganddi. Ffordd i Sheol yw ei thŷ, yn arwain i lawr i neuaddau marwolaeth.

Diarhebion 7:1-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi. Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad. Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon. Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares: Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â’r ymadrodd gwenieithus. Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt, A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo, Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi, Yn y cyfnos gyda’r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll: Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar. (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ: Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.) Hi a ymafaelodd ynddo, ac a’i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho, Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned: Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat. Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft. Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon. Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad. Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell: Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol. Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef. Efe a’i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i’r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi: Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef. Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau. Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi. Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer a laddodd hi. Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.