Diarhebion 4:5-9
Diarhebion 4:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau. Cais ddoethineb, cais ddeall; paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw; câr hi, a bydd yn d'amddiffyn. Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb; â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi; fe'th anrhydedda, os cofleidi hi. Gesyd dorch brydferth ar dy ben, a rhoi coron anrhydedd iti.”
Diarhebion 4:5-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn; paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i’n ddweud. Paid troi cefn ar ddoethineb – bydd hi’n dy warchod di; os gwnei di ei charu, bydd hi’n dy amddiffyn di. Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall! Petai’n costio popeth sydd gen ti – mynna ddeall. Os byddi’n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi’n dy helpu di; cofleidia hi, a bydd hi’n dod ag anrhydedd i ti. Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben; coron fydd yn dy anrhydeddu di.”
Diarhebion 4:5-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau. Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di. Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall. Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi. Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.