Diarhebion 4:25-27
Diarhebion 4:25-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Edrych yn syth o dy flaen, cadw dy olwg ar ble rwyt ti’n mynd. Gwylia’r ffordd rwyt ti’n mynd, a byddi’n gwneud y peth iawn. Paid crwydro i’r dde na’r chwith; cadw draw oddi wrth beth sy’n ddrwg.
Rhanna
Darllen Diarhebion 4Diarhebion 4:25-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cadw dy lygaid yn unionsyth, ac edrych yn syth o'th flaen. Rho sylw i lwybr dy droed, i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel. Paid â throi i'r dde nac i'r chwith, a chadw dy droed rhag y drwg.
Rhanna
Darllen Diarhebion 4Diarhebion 4:25-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen. Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn. Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.
Rhanna
Darllen Diarhebion 4