Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 4:1-27

Diarhebion 4:1-27 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Blant, clywch beth mae’ch tad yn ei ddysgu i chi. Gwrandwch, i chi ddysgu sut i fod yn ddoeth. Dw i’n dysgu beth sy’n dda, felly peidiwch troi cefn ar beth dw i’n ddweud. Rôn i’n blentyn ar un adeg, yn unig blentyn, ac yn annwyl iawn yng ngolwg mam. Roedd dad yn fy nysgu i, ac yn dweud wrtho i, “Dal dy afael yn yr hyn dw i’n ddweud. Gwna beth dw i’n ei orchymyn, i ti gael bywyd da. Mynna fod yn ddoeth, mynna ddeall yn iawn; paid anghofio, na throi cefn ar beth dw i’n ddweud. Paid troi cefn ar ddoethineb – bydd hi’n dy warchod di; os gwnei di ei charu, bydd hi’n dy amddiffyn di. Mynna fod yn ddoeth o flaen popeth arall! Petai’n costio popeth sydd gen ti – mynna ddeall. Os byddi’n meddwl yn uchel ohoni, bydd hi’n dy helpu di; cofleidia hi, a bydd hi’n dod ag anrhydedd i ti. Bydd yn gosod torch hardd ar dy ben; coron fydd yn dy anrhydeddu di.” Fy mab, gwrando’n ofalus ar beth dw i’n ddweud, a byddi di’n cael byw yn hir. Dw i wedi dy ddysgu di i fod yn ddoeth, ac wedi dy osod di ar y llwybr iawn. Byddi’n cerdded yn dy flaen yn hyderus; byddi’n rhedeg heb faglu o gwbl. Dal yn dynn yn beth wyt ti’n ddysgu, paid gollwng gafael. Cadw’r cwbl yn saff – mae’n rhoi bywyd i ti! Paid dilyn llwybrau pobl ddrwg; paid mynd yr un ffordd â nhw. Cadw draw! Paid mynd yn agos! Tro rownd a mynd i’r cyfeiriad arall! Allan nhw ddim cysgu heb fod wedi gwneud drwg. Maen nhw’n colli cwsg os nad ydyn nhw wedi baglu rhywun. Drygioni ydy’r bara sy’n eu cadw nhw’n fyw, A thrais ydy’r gwin maen nhw’n ei yfed! Mae llwybr y rhai sy’n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes bydd hi’n ganol dydd. Ond mae ffordd pobl ddrwg yn dywyll; dŷn nhw ddim yn gwybod beth fydd yn eu baglu nhw. Fy mab, gwrando ar beth dw i’n ddweud; gwrando’n astud ar fy ngeiriau. Paid colli golwg arnyn nhw; cadw nhw’n agos at dy galon. Maen nhw’n rhoi bywyd i’r un sy’n eu cael, ac iechyd i’r corff cyfan. Gwarchod dy galon o flaen pob dim arall, achos dyna ffynhonnell dy fywyd. Paid dweud celwydd; paid dweud pethau i dwyllo pobl. Edrych yn syth o dy flaen, cadw dy olwg ar ble rwyt ti’n mynd. Gwylia’r ffordd rwyt ti’n mynd, a byddi’n gwneud y peth iawn. Paid crwydro i’r dde na’r chwith; cadw draw oddi wrth beth sy’n ddrwg.

Diarhebion 4:1-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad, ac ystyriwch i chwi ddysgu deall. Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da; peidiwch â gwrthod fy nysgeidiaeth. Bûm innau hefyd yn fab i'm tad, yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam. Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf, “Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau; cadw fy ngorchmynion iti gael byw. Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau. Cais ddoethineb, cais ddeall; paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw; câr hi, a bydd yn d'amddiffyn. Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb; â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall. Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi; fe'th anrhydedda, os cofleidi hi. Gesyd dorch brydferth ar dy ben, a rhoi coron anrhydedd iti.” Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau, ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd. Hyfforddais di yn ffordd doethineb; dysgais iti gerdded llwybrau union. Pan gerddi, ni rwystrir dy gam, a phan redi, ni fyddi'n baglu. Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng; dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd. Paid â dilyn llwybr y drygionus, na cherdded ffordd pobl ddrwg; gochel hi, paid â'i throedio, tro oddi wrthi a dos yn dy flaen. Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg; collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun. Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll, ac yn yfed gwin gormes. Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr, sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd. Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew; ni wyddant beth sy'n eu baglu. Fy mab, rho sylw i'm geiriau, a gwrando ar fy ymadrodd. Paid â'u gollwng o'th olwg; cadw hwy yn dy feddwl; oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael, ac yn iechyd i'w holl gorff. Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl, oherwydd oddi yno y tardd bywyd. Gofala osgoi geiriau twyllodrus, a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar. Cadw dy lygaid yn unionsyth, ac edrych yn syth o'th flaen. Rho sylw i lwybr dy droed, i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel. Paid â throi i'r dde nac i'r chwith, a chadw dy droed rhag y drwg.

Diarhebion 4:1-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall. Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith. Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam. Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw. Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau. Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di. Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall. Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi. Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant. Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir. Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb. Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi. Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi. Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus. Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio. Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn. Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais. Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant. Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion. Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon. Canys bywyd ydynt i’r neb a’u caffont, ac iechyd i’w holl gnawd. Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod. Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt. Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen. Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn. Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd