Diarhebion 30:10-12
Diarhebion 30:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid hel straeon am gaethwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio di, ac i ti orfod talu’r pris. Mae yna bobl sy’n melltithio’u tadau, ac sydd ddim yn fendith i’w mamau. Mae yna bobl sy’n meddwl eu bod nhw’n dda, ond sydd heb eu glanhau o garthion eu pechod.
Rhanna
Darllen Diarhebion 30Diarhebion 30:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â difrïo gwas wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog. Y mae rhai yn melltithio'u tad, ac yn amharchu eu mam. Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain, ond heb eu glanhau o'u haflendid.
Rhanna
Darllen Diarhebion 30Diarhebion 30:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog. Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia. Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid.
Rhanna
Darllen Diarhebion 30