Diarhebion 3:5-12
Diarhebion 3:5-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti. Paid meddwl dy fod ti’n glyfar; dangos barch at yr ARGLWYDD a throi dy gefn ar ddrygioni. Bydd byw felly’n cadw dy gorff yn iach, ac yn gwneud byd o les i ti. Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu’r ARGLWYDD; rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe. Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn, a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin. Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, na thorri dy galon pan mae e’n dy gywiro di. Achos mae’r ARGLWYDD yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru, fel mae tad yn cosbi’r plentyn mae mor falch ohono.
Diarhebion 3:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg. Bydd hyn yn iechyd i'th gorff, ac yn faeth i'th esgyrn. Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth, ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch. Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn, a'th gafnau'n gorlifo gan win. Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, a phaid â digio wrth ei gerydd; oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD, fel tad sy'n hoff o'i blentyn.
Diarhebion 3:5-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau. Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni. Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn. Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth: Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd. Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef; Canys y neb a fyddo DUW yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.