Diarhebion 3:3-6
Diarhebion 3:3-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser; clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf, ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon. Yna byddi’n cael dy dderbyn, ac yn cael enw da gan Dduw a chan bobl eraill. Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti.
Diarhebion 3:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon; a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion. Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
Diarhebion 3:3-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion. Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.