Diarhebion 3:14-18
Diarhebion 3:14-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n gwneud mwy o elw nag arian, ac yn talu’n ôl lawer mwy nag aur. Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau; does dim trysor tebyg iddi. Mae bywyd llawn yn ei llaw dde, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. Mae ei ffyrdd yn llawn haelioni, a’i llwybrau yn arwain i heddwch a diogelwch. Mae hi fel coeden sy’n rhoi bywyd i’r rhai sy’n gafael ynddi, ac mae’r rhai sy’n dal gafael ynddi mor hapus!
Diarhebion 3:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi. Yn ei llaw dde y mae hir oes, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd, a heddwch sydd ar ei holl lwybrau. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi, a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.
Diarhebion 3:14-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth. Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi. Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch. Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi.