Diarhebion 3:13-24
Diarhebion 3:13-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y fath fendith sydd i’r sawl sy’n darganfod doethineb, ac yn llwyddo i ddeall. Mae’n gwneud mwy o elw nag arian, ac yn talu’n ôl lawer mwy nag aur. Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau; does dim trysor tebyg iddi. Mae bywyd llawn yn ei llaw dde, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. Mae ei ffyrdd yn llawn haelioni, a’i llwybrau yn arwain i heddwch a diogelwch. Mae hi fel coeden sy’n rhoi bywyd i’r rhai sy’n gafael ynddi, ac mae’r rhai sy’n dal gafael ynddi mor hapus! Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini’r ddaear; a’i ddeall e wnaeth drefnu’r bydysawd. Ei drefn e wnaeth i’r ffynhonnau dŵr dorri allan, ac i’r awyr roi dafnau o wlith. Fy mab, paid colli golwg ar gyngor doeth a’r ffordd iawn; dal dy afael ynddyn nhw. Byddan nhw’n rhoi bywyd i ti ac yn addurn hardd am dy wddf. Yna byddi’n cerdded drwy fywyd yn saff a heb faglu. Pan fyddi’n gorwedd i lawr, fydd dim byd i’w ofni; byddi’n gorwedd ac yn gallu cysgu’n braf.
Diarhebion 3:13-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi. Yn ei llaw dde y mae hir oes, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd, a heddwch sydd ar ei holl lwybrau. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi, a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi. Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac â deall y sicrhaodd y nefoedd; trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith. Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll; paid â'u gollwng o'th olwg; byddant yn iechyd i'th enaid, ac yn addurn am dy wddf. Yna cei gerdded ymlaen heb bryder, ac ni fagla dy droed. Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni, a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys.
Diarhebion 3:13-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan. Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth. Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi. Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch. Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi. Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd. Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith. Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll. Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf. Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda. Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys.