Diarhebion 3:1-8
Diarhebion 3:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mab, paid anghofio beth dw i’n ei ddysgu i ti; cadw’r pethau dw i’n eu gorchymyn yn dy galon. Byddi’n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da; bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti. Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser; clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf, ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon. Yna byddi’n cael dy dderbyn, ac yn cael enw da gan Dduw a chan bobl eraill. Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti. Paid meddwl dy fod ti’n glyfar; dangos barch at yr ARGLWYDD a throi dy gefn ar ddrygioni. Bydd byw felly’n cadw dy gorff yn iach, ac yn gwneud byd o les i ti.
Diarhebion 3:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof. Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant. Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon; a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion. Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg. Bydd hyn yn iechyd i'th gorff, ac yn faeth i'th esgyrn.
Diarhebion 3:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion: Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti. Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion. Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau. Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni. Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.