Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 3:1-35

Diarhebion 3:1-35 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Fy mab, paid anghofio beth dw i’n ei ddysgu i ti; cadw’r pethau dw i’n eu gorchymyn yn dy galon. Byddi’n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da; bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti. Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser; clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf, ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon. Yna byddi’n cael dy dderbyn, ac yn cael enw da gan Dduw a chan bobl eraill. Trystia’r ARGLWYDD yn llwyr; paid dibynnu ar dy syniadau dy hun. Gwrando arno fe bob amser, a bydd e’n dangos y ffordd iawn i ti. Paid meddwl dy fod ti’n glyfar; dangos barch at yr ARGLWYDD a throi dy gefn ar ddrygioni. Bydd byw felly’n cadw dy gorff yn iach, ac yn gwneud byd o les i ti. Defnyddia dy gyfoeth i anrhydeddu’r ARGLWYDD; rho siâr cyntaf dy gnydau iddo fe. Wedyn bydd dy ysguboriau yn llawn, a dy gafnau yn llawn o sudd grawnwin. Fy mab, paid diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, na thorri dy galon pan mae e’n dy gywiro di. Achos mae’r ARGLWYDD yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru, fel mae tad yn cosbi’r plentyn mae mor falch ohono. Y fath fendith sydd i’r sawl sy’n darganfod doethineb, ac yn llwyddo i ddeall. Mae’n gwneud mwy o elw nag arian, ac yn talu’n ôl lawer mwy nag aur. Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau; does dim trysor tebyg iddi. Mae bywyd llawn yn ei llaw dde, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. Mae ei ffyrdd yn llawn haelioni, a’i llwybrau yn arwain i heddwch a diogelwch. Mae hi fel coeden sy’n rhoi bywyd i’r rhai sy’n gafael ynddi, ac mae’r rhai sy’n dal gafael ynddi mor hapus! Doethineb yr ARGLWYDD osododd sylfeini’r ddaear; a’i ddeall e wnaeth drefnu’r bydysawd. Ei drefn e wnaeth i’r ffynhonnau dŵr dorri allan, ac i’r awyr roi dafnau o wlith. Fy mab, paid colli golwg ar gyngor doeth a’r ffordd iawn; dal dy afael ynddyn nhw. Byddan nhw’n rhoi bywyd i ti ac yn addurn hardd am dy wddf. Yna byddi’n cerdded drwy fywyd yn saff a heb faglu. Pan fyddi’n gorwedd i lawr, fydd dim byd i’w ofni; byddi’n gorwedd ac yn gallu cysgu’n braf. Fydd gen ti ddim ofn yr annisgwyl, na’r drychineb sy’n dod ar bobl ddrwg. Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi hyder i ti; bydd e’n dy gadw di rhag syrthio i drap. Pan fydd gen ti’r cyfle i helpu rhywun, paid gwrthod gwneud cymwynas â nhw. Paid dweud wrth rywun, “Tyrd yn ôl rywbryd eto; bydda i’n dy helpu di yfory,” a thithau’n gallu gwneud hynny’n syth. Paid meddwl gwneud drwg i rywun pan mae’r person yna’n dy drystio di. Paid codi ffrae gyda rhywun am ddim rheswm, ac yntau heb wneud dim drwg i ti. Paid bod yn genfigennus o rywun sy’n cam-drin pobl eraill, na dilyn ei esiampl. Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy’n twyllo, ond mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest. Mae melltith yr ARGLWYDD ar dai pobl ddrwg, ond mae e’n bendithio cartrefi’r rhai sy’n byw’n iawn. Mae e’n dirmygu’r rhai sy’n gwawdio pobl eraill, ond yn hael at y rhai gostyngedig. Bydd pobl ddoeth yn cael eu canmol, ond y rhai dwl yn cael eu cywilyddio.

Diarhebion 3:1-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof. Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant. Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon; a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion. Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun. Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union. Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg. Bydd hyn yn iechyd i'th gorff, ac yn faeth i'th esgyrn. Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth, ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch. Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn, a'th gafnau'n gorlifo gan win. Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, a phaid â digio wrth ei gerydd; oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD, fel tad sy'n hoff o'i blentyn. Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall. Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur. Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi. Yn ei llaw dde y mae hir oes, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith. Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd, a heddwch sydd ar ei holl lwybrau. Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi, a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi. Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac â deall y sicrhaodd y nefoedd; trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith. Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll; paid â'u gollwng o'th olwg; byddant yn iechyd i'th enaid, ac yn addurn am dy wddf. Yna cei gerdded ymlaen heb bryder, ac ni fagla dy droed. Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni, a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys. Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth, na dinistr y drygionus pan ddaw; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti, ac yn cadw dy droed rhag y fagl. Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu, os yw yn dy allu i'w gwneud. Paid â dweud wrth dy gymydog, “Tyrd yn d'ôl eto, ac fe'i rhoddaf iti yfory”, er ei fod gennyt yn awr. Paid â chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau'n ymddiried ynot. Paid â chweryla'n ddiachos ag unrhyw un, ac yntau heb wneud cam â thi. Paid â chenfigennu wrth ormeswr, na dewis yr un o'i ffyrdd. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus, ond yn rhannu ei gyfrinach â'r uniawn. Y mae melltith yr ARGLWYDD ar dŷ'r drygionus, ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn. Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr, eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig. Etifedda'r doeth anrhydedd, ond y ffyliaid bentwr o warth.

Diarhebion 3:1-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion: Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti. Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. Felly y cei di ras a deall da gerbron DUW a dynion. Gobeithia yn yr ARGLWYDD â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau. Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr ARGLWYDD, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni. Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn. Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth: Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd. Fy mab, na ddirmyga gerydd yr ARGLWYDD; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef; Canys y neb a fyddo DUW yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo. Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan. Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth. Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi. Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch. Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi. Yr ARGLWYDD trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd. Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith. Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll. Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf. Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda. Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys. Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo. Canys yr ARGLWYDD a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal. Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur. Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr. Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl. Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti. Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef. Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef. Melltith yr ARGLWYDD sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn. Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig. Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd