Diarhebion 3:1-3
Diarhebion 3:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof. Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant. Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon
Diarhebion 3:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mab, paid anghofio beth dw i’n ei ddysgu i ti; cadw’r pethau dw i’n eu gorchymyn yn dy galon. Byddi’n byw yn hirach ac yn cael blynyddoedd da; bydd eu dilyn nhw yn gwneud byd o les i ti. Bydd yn garedig ac yn ffyddlon bob amser; clyma bethau felly fel cadwyn am dy wddf, ysgrifenna nhw ar lech ar dy galon.
Diarhebion 3:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion: Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti. Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon.