Diarhebion 23:22-25
Diarhebion 23:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwrando ar dy dad, a'th genhedlodd, a phaid â dirmygu dy fam pan fydd yn hen. Pryn wirionedd, a phaid â'i werthu; pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall. Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn, a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo. Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd, ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.
Diarhebion 23:22-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwranda ar dy dad, ddaeth â ti i’r byd; a phaid diystyru dy fam pan fydd hi’n hen. Gafael yn y gwirionedd, a phaid â’i ollwng, doethineb hefyd, a disgyblaeth a deall! Os ydy plentyn yn gwneud beth sy’n iawn bydd ei dad mor hapus; mae plentyn doeth yn rhoi’r fath bleser i’w rieni. Bydd dy dad a dy fam wrth eu boddau; felly gwna’r un ddaeth â ti i’r byd yn hapus!
Diarhebion 23:22-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrando ar dy dad a’th genhedlodd: ac na ddiystyra dy fam pan heneiddio. Prŷn y gwir, ac na werth; felly doethineb, ac addysg, a deall. Tad y cyfiawn a orfoledda yn fawr; a’r neb a genhedlo fab doeth, a lawenha o’i blegid. Dy dad a’th fam a lawenycha; a’r hon a’th ymddûg a orfoledda.