Diarhebion 21:1-16
Diarhebion 21:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr; fe'i try i ble bynnag y dymuna. Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon. Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth. Llygaid balch a chalon ymffrostgar, dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod. Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys. Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth. Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais, am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn. Troellog yw ffordd y troseddwr, ond uniawn yw gweithred y didwyll. Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷ na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg; nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog. Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth; ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall. Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus; y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr. Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd, ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw. Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr. Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder, ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg. Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall yn gorffwys yng nghwmni'r meirw.
Diarhebion 21:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae penderfyniadau y brenin fel sianel ddŵr yn llaw’r ARGLWYDD; mae’n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau. Mae pobl bob amser yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn, ond mae’r ARGLWYDD yn pwyso a mesur y cymhellion. Mae cael rhywun yn gwneud beth sy’n gyfiawn ac yn deg yn well gan yr ARGLWYDD nag aberthau. Mae snobyddiaeth a balchder – sy’n nodweddu pobl ddrwg – yn bechod. Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled, ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi. Mae ffortiwn wedi’i hennill drwy ddweud celwydd fel tarth sy’n diflannu – magl i farwolaeth. Mae pobl ddrwg yn cael eu llusgo i ffwrdd gan eu trais, maen nhw’n gwrthod gwneud beth sy’n iawn. Mae pobl yn gallu bod yn dwyllodrus ac yn rhyfedd, ond mae’r sawl sy’n bur yn gwneud beth sy’n iawn. Mae byw mewn cornel yn yr atig yn well na rhannu cartref gyda gwraig gecrus. Mae person drwg yn ysu am gael gwneud drwg, ac yn dangos dim trugaredd at bobl eraill. Pan mae’r gwawdiwr yn cael ei gosbi mae’r gwirion yn dysgu gwers, ond mae’r person doeth yn dysgu wrth wrando. Mae’r Duw cyfiawn yn gweld cartrefi pobl ddrwg; bydd yn dod â dinistr arnyn nhw. Os ydy rhywun yn gwrthod gwrando ar gri’r tlawd, bydd e’n gweiddi hefyd, a fydd neb yn ei ateb. Mae rhodd gyfrinachol yn tawelu llid, a childwrn yn tewi’r un sydd wedi colli ei dymer. Mae’r rhai cyfiawn wrth eu bodd yn gwneud beth sy’n iawn, ond mae’n ddychryn i bobl ddrwg. Bydd pwy bynnag sy’n crwydro oddi ar y llwybr iawn yn cael ei hun yn gorffwys gyda’r ysbrydion.
Diarhebion 21:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr ARGLWYDD: efe a’i try hi lle y mynno. Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa y calonnau. Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr ARGLWYDD nag aberth. Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod. Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig. Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau. Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn. Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith. Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang. Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef. Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth. Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae DUW yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni. Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef. Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf. Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd. Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.