Diarhebion 2:10-15
Diarhebion 2:10-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di, bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff, a bydd deall yn dy warchod. Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg, a rhag y bobl hynny sy’n twyllo o hyd – y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonest i ddilyn llwybrau tywyll. Maen nhw wrth eu boddau’n gwneud drwg ac yn mwynhau twyllo – pobl anonest ydyn nhw, ac maen nhw’n dilyn ffyrdd troellog.
Diarhebion 2:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti. Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod, ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni, a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus— y rhai sy'n gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch, sy'n cael pleser mewn gwneud drwg a mwynhad mewn twyll, y rhai y mae eu ffordd yn gam a'u llwybrau'n droellog.
Diarhebion 2:10-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth; Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw: I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd; Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch; Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus; Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau