Diarhebion 2:1-7
Diarhebion 2:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mab, os byddi di’n derbyn beth dw i’n ddweud, ac yn trysori’r hyn dw i’n ei orchymyn; os gwnei di wrando’n astud ar ddoethineb, a cheisio deall yn iawn; os byddi di’n gofyn am gyngor doeth, ac yn awyddus i ddeall yn iawn; os byddi’n ceisio doethineb fel arian ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi’i guddio, yna byddi di’n deall sut i barchu’r ARGLWYDD a byddi’n dod i wybod am Dduw. Achos yr ARGLWYDD sy’n rhoi doethineb; beth mae e’n ddweud sy’n rhoi gwybodaeth a deall. Mae’n rhoi llwyddiant i’r un sy’n gwneud beth sy’n iawn – ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy’n byw yn onest.
Diarhebion 2:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion, a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall; os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth, a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor— yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw. Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall. Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.
Diarhebion 2:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW. Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn.