Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 18:1-24

Diarhebion 18:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae’r un sy’n cadw ar wahân yn plesio ei hun, ac yn gwrthod unrhyw gyngor doeth. Does gan ffŵl ddim awydd o gwbl i ddeall, dim ond lleisio’i farn ei hun. Mae dirmyg yn dilyn y drwg, a gwawdio yn dilyn gwarth. Mae geiriau rhywun fel dŵr dwfn – ffynnon o ddoethineb fel nant yn llifo. Dydy dangos ffafr at yr euog ddim yn beth da, na gwrthod cyfiawnder i’r dieuog. Mae geiriau ffŵl yn achosi ffrae; mae’n gofyn am drwbwl! Mae siarad ffŵl yn arwain i ddinistr; mae’n cael ei rwydo gan ei eiriau ei hun. Mae gwrando ar glecs fel bwyd blasus – mae’r cwbl yn cael ei lyncu. Mae’r un sy’n ddiog yn ei waith yn perthyn yn agos i’r fandal. Mae enw’r ARGLWYDD fel tŵr solet; mae’r rhai sy’n byw’n iawn yn rhedeg ato i fod yn saff. Ond caer ddiogel y cyfoethog ydy ei gyfoeth; mae’n dychmygu ei fod yn wal uchel i’w amddiffyn. Cyn i’r chwalfa ddod roedd digon o frolio; gostyngeiddrwydd sy’n arwain i anrhydedd. Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i’w wneud, ac yn dangos diffyg parch. Gall ysbryd rhywun ei gynnal drwy afiechyd; ond mae iselder ysbryd yn faich trwm i’w gario. Mae’r person call am ddysgu mwy, ac mae’r doeth yn chwilio am wybodaeth. Mae rhoi rhodd i rywun yn agor drysau i gyfarfod pobl bwysig. Mae’r cyntaf i gyflwyno ei dystiolaeth yn ymddangos yn iawn nes i rywun ddod a’i groesholi. Mae taflu coelbren yn rhoi terfyn ar ffraeo, ac yn setlo dadl ffyrnig. Mae perthynas wedi digio yn ystyfnig fel caer; a chwerylon fel barrau i gloi giatiau castell. Rhaid i rywun ddysgu byw gyda’i eiriau; mae dweud y peth iawn yn rhoi boddhad. Mae’r tafod yn gallu rhoi bywyd a marwolaeth; ac mae’r rhai sy’n hoffi siarad yn gorfod byw gyda’u geiriau. Mae’r dyn sydd wedi ffeindio gwraig yn hapus; mae’r ARGLWYDD wedi bod yn dda ato. Mae’r person tlawd yn pledio am help, ond mae’r cyfoethog yn ei ateb yn swta. Mae rhai ffrindiau’n gallu brifo rhywun, ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.

Diarhebion 18:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y mae'r un sy'n cadw ar wahân yn ceisio cweryl, ac yn ymosod ar bob cynllun. Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall, dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun. Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg, a gwarth ar ôl amarch. Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion, yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb. Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus, i amddifadu'r cyfiawn o farn. Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen, a'i eiriau yn gofyn am gurfa. Genau'r ynfyd yw ei ddinistr, ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun. Y mae geiriau'r straegar fel danteithion sy'n mynd i lawr i'r cylla. Y mae'r diog yn ei waith yn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr. Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn; rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel. Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn, ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun. Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch, ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd. Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrando yn dangos ffolineb ac amarch. Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd, ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd? Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth, a chlust y doeth yn chwilio am ddeall. Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo, ac yn ei arwain at y mawrion. Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn, nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi. Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon, ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn. Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer gadarn, a chwerylon fel bollt castell. O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un, a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu. Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd, ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth. Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioni ac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD. Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar, ond y cyfoethog yn ateb yn arw. Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai; ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.

Diarhebion 18:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth. Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun. Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd. Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo. Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn. Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau. Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagl i’w enaid. Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol. Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar. Tŵr cadarn yw enw yr ARGLWYDD: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel. Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun. Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd. Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo. Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd? Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth. Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid. Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef. Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn. Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell. A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef. Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef. Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr ARGLWYDD. Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin. Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.