Diarhebion 12:18-20
Diarhebion 12:18-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu, ond mae geiriau doeth yn iacháu. Mae geiriau gwir yn aros bob amser, ond celwydd, mae wedi mynd mewn chwinciad. Twyllo ydy bwriad y rhai sy’n cynllwynio i wneud drwg; ond mae’r rhai sy’n hybu heddwch yn profi llawenydd.
Diarhebion 12:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf, ond y mae tafod y doeth yn iacháu. Erys geiriau gwir am byth, ond ymadrodd celwyddog am eiliad. Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg, ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.
Diarhebion 12:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth. Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr. Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.