Diarhebion 1:20-33
Diarhebion 1:20-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae doethineb yn gweiddi ar y strydoedd, ac yn codi ei llais yn y sgwâr. Mae’n sefyll ar gorneli’r strydoedd prysur ac yn galw allan; ac yn dweud ei dweud wrth giatiau’r ddinas: “Ydych chi, bobl wirion, yn mwynhau anwybodaeth? Ydych chi sy’n gwawdio am ddal ati? A chi rai dwl, ydych chi byth eisiau dysgu? Peidiwch diystyru beth dw i’n ddweud! Dw i’n mynd i dywallt fy nghalon, a dweud beth sydd ar fy meddwl wrthoch chi. Roeddech chi wedi gwrthod ymateb pan o’n i’n galw, ac yn cymryd dim sylw pan wnes i estyn llaw atoch chi. Roeddech chi’n diystyru’r cyngor oedd gen i ac yn gwrthod gwrando arna i’n ceryddu. Ond fi fydd yn chwerthin pan fyddwch chi mewn trafferthion; fi fydd yn gwawdio pan fyddwch chi’n panicio! Bydd dychryn yn dod arnoch chi fel storm, a thrychineb yn eich taro chi fel corwynt! Byddwch mewn helbul ac mewn argyfwng go iawn. Byddwch chi’n galw arna i bryd hynny, ond fydda i ddim yn ateb; byddwch chi’n chwilio’n daer amdana i, ond yn methu dod o hyd i mi. Roeddech chi wedi gwrthod dysgu, ac wedi dangos dim parch at yr ARGLWYDD. Gwrthod y cyngor rois i, a chymryd dim sylw pan oeddwn i’n dweud y drefn. Felly bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau eich ffyrdd, a byddwch wedi cael llond bol ar eich cynlluniau. Bydd anufudd-dod pobl wirion yn eu lladd nhw, a difaterwch pobl ddwl yn eu dinistrio. Ond bydd pwy bynnag sy’n gwrando arna i yn saff, yn dawel eu meddwl, ac yn ofni dim.”
Diarhebion 1:20-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd, yn codi ei llais yn y sgwâr, yn gweiddi ar ben y muriau, yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas. Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion, ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar, ac y casâ ffyliaid wybodaeth? Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd, tywalltaf fy ysbryd arnoch, a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau. Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb, ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando; am i chwi ddiystyru fy holl gyngor, a gwrthod fy ngherydd— am hynny, chwarddaf ar eich dinistr, a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch, pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt, a dinistr yn taro fel storm, pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch. Yna galwant arnaf, ond nid atebaf; fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael. Oherwydd iddynt gasáu gwybodaeth, a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD, a gwrthod fy nghyngor, ac anwybyddu fy holl gerydd, cânt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd, a syrffedu ar eu cynlluniau. Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd, a difrawder y ffyliaid yn eu difa. Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel, yn dawel heb ofni drwg.
Diarhebion 1:20-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd: Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd, Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth? Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi. Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried; Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd: Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni; Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi: Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt: Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant: Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd. Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain. Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha. Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.