Diarhebion 1:16-19
Diarhebion 1:16-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Maen nhw’n rhuthro i wneud drwg; maen nhw ar frys i dywallt gwaed. Fel mae’r rhwyd sy’n cael ei gosod yn golygu dim byd i’r aderyn, dŷn nhw ddim yn gweld y perygl – maen nhw’n dinistrio’u bywydau eu hunain! Ie, dyna sy’n digwydd i’r rhai sy’n elwa ar draul eraill; mae ymddwyn felly yn difetha bywyd y person ei hun!
Diarhebion 1:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg, ac yn prysuro i dywallt gwaed. Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog. Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio, ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain. Dyma dynged pob un awchus am elw; y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.
Diarhebion 1:16-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed. Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain. Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu. Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.