Diarhebion 1:10-12
Diarhebion 1:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid, paid â chytuno â hwy. Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni, inni gynllwynio i dywallt gwaed, a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed; fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll
Rhanna
Darllen Diarhebion 1Diarhebion 1:10-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mab, os ydy cwmni drwg yn ceisio dy ddenu di, paid mynd gyda nhw. Os dwedan nhw, “Tyrd gyda ni! Gad i ni guddio i ymosod ar rywun; mygio rhywun diniwed am ddim rheswm! Gad i ni eu llyncu nhw’n fyw, fel y bedd; a rhoi crasfa iawn iddyn nhw, nes byddan nhw bron â marw.
Rhanna
Darllen Diarhebion 1Diarhebion 1:10-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna. Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos: Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew
Rhanna
Darllen Diarhebion 1