Diarhebion 1:1-6
Diarhebion 1:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Diarhebion Solomon, mab Dafydd, brenin Israel: I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn, ac i ti ddeall beth sy’n gyngor call. I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog, yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg. I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall, a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc. (Bydd y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy, a’r rhai sy’n gall yn derbyn arweiniad.) Hefyd, i ti ddeall dihareb a gallu dehongli dywediadau doeth a phosau.
Diarhebion 1:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel— i gael doethineb ac addysg, i ddeall geiriau deallus, i dderbyn addysg fuddiol, cyfiawnder, barn, ac uniondeb, i roi craffter i'r gwirion, a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc. Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg, a'r deallus yn ennill medrusrwydd, i ddeall dameg a'i dehongliad, dywediadau'r doeth a'u posau.
Diarhebion 1:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr. Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog: I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.