Diarhebion 1:1-4
Diarhebion 1:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Diarhebion Solomon, mab Dafydd, brenin Israel: I dy helpu i fod yn ddoeth a dysgu byw yn iawn, ac i ti ddeall beth sy’n gyngor call. I ti ddysgu sut i fod yn bwyllog, yn gyfiawn, yn gytbwys, ac yn deg. I ddysgu rhai gwirion i fod yn gall, a dangos y ffordd iawn i bobl ifanc.
Rhanna
Darllen Diarhebion 1Diarhebion 1:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel— i gael doethineb ac addysg, i ddeall geiriau deallus, i dderbyn addysg fuddiol, cyfiawnder, barn, ac uniondeb, i roi craffter i'r gwirion, a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.
Rhanna
Darllen Diarhebion 1Diarhebion 1:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr.
Rhanna
Darllen Diarhebion 1