Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 3:8-16

Philipiaid 3:8-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Does dim byd mwy gwerthfawr bellach na’r fraint aruthrol o gael nabod fy Arglwydd, y Meseia Iesu! Dw i’n gallu byw heb y pethau eraill i gyd, cyn belled â mod i’n cael y Meseia. Sbwriel ydy’r cwbl o’i gymharu â chael perthyn i’r Meseia! Bellach, dw i ddim yn honni bod mewn perthynas iawn gyda Duw ar sail beth dw i wedi llwyddo i’w wneud (hynny ydy, ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig). Yr unig beth sy’n cyfri bellach ydy fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon – mae perthynas iawn gyda Duw yn rhodd i ni sy’n credu ynddo! Bellach yr unig beth dw i eisiau ydy dod i nabod y Meseia Iesu yn well, drwy brofi y pŵer hwnnw wnaeth ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, a gallu dioddef fel y gwnaeth e – hyd yn oed os bydd hynny’n golygu marw drosto! Bydda innau wedyn yn cael rhannu’r profiad o godi yn ôl yn fyw ar ôl i mi farw. Dw i ddim yn honni fy mod i eisoes wedi cyrraedd, nac yn honni bod yn berffaith! Ond dw i’n dal ati er mwyn ennill y cwbl mae’r Meseia Iesu wedi’i fwriadu ar fy nghyfer i pan alwodd fi i’w ddilyn. Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i’n ei ddweud ydy hyn: Dw i’n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o mlaen i. Fel taswn i mewn ras, dw i’n rhedeg at y llinell derfyn gyda’r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i’r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu. Felly gadewch i bob un ohonon ni sy’n ‘berffaith’ fod â’r un agwedd. Os dych chi’n gweld pethau’n wahanol, dw i’n credu y bydd Duw yn dangos eich camgymeriad i chi. Beth bynnag, gadewch i ni fyw yn gyson â beth dŷn ni eisoes yn ei wybod sy’n wir.