Philipiaid 3:17-21
Philipiaid 3:17-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i am i chi ddilyn fy esiampl i, frodyr a chwiorydd, a dysgu gan y rhai sy’n byw fel yma – dŷn ni wedi dangos y ffordd i chi. Dw i wedi dweud hyn lawer gwaith, a dw i’n dweud yr un peth eto gyda dagrau – mae llawer yn byw mewn ffordd sy’n dangos eu bod nhw’n elynion i’r neges am farwolaeth y Meseia ar y groes. Dinistr fydd eu diwedd nhw! Dynion sy’n addoli beth maen nhw’n ei fwyta – dyna’r duw sy’n eu rheoli nhw! Dynion sy’n brolio am beth ddylai godi cywilydd arnyn nhw! Pethau’r byd ydy’r unig bethau sydd ar eu meddyliau nhw. Ond dŷn ni’n wahanol. Dŷn ni’n ddinasyddion y nefoedd, ac yn edrych ymlaen yn frwd i’n Hachubwr, yr Arglwydd Iesu Grist, ddod yn ôl o’r nefoedd. Bydd yn trawsffurfio ein cyrff marwol, tila ni, ac yn eu gwneud yr un fath â’i gorff rhyfeddol ei hun, drwy’r grym sy’n ei alluogi i osod pob peth dan ei reolaeth ei hun.
Philipiaid 3:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byddwch yn gydefelychwyr ohonof fi, gyfeillion, a daliwch sylw ar y rhai sy'n byw yn ôl yr esiampl sydd gennych ynom ni. Oherwydd y mae llawer, yr wyf yn fynych wedi sôn wrthych amdanynt, ac yr wyf yn sôn eto yn awr gan wylo, sydd o ran eu ffordd o fyw yn elynion croes Crist. Distryw yw eu diwedd, y bol yw eu duw, ac yn eu cywilydd y mae eu gogoniant; pobl â'u bryd ar bethau daearol ydynt. Oherwydd yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni, ac oddi yno hefyd yr ydym yn disgwyl Gwaredwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist. Bydd ef yn gweddnewid ein corff iselwael ni ac yn ei wneud yn unffurf â'i gorff gogoneddus ef, trwy'r nerth sydd yn ei alluogi i ddwyn pob peth dan ei awdurdod.
Philipiaid 3:17-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Byddwch ddilynwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi. (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt; Diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daearol.) Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o’r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist: Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â’i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.