Philipiaid 3:13-14
Philipiaid 3:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Frodyr a chwiorydd annwyl, dw i ddim am eiliad yn meddwl mod i eisoes wedi cyrraedd! Y cwbl dw i’n ei ddweud ydy hyn: Dw i’n anghofio beth sydd tu cefn i mi ac yn canolbwyntio fy holl egni ar beth sydd o mlaen i. Fel taswn i mewn ras, dw i’n rhedeg at y llinell derfyn gyda’r bwriad o ennill! Dw i am ennill y wobr sydd gan Dduw ar ein cyfer ni. Ei alwad i’r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu.
Philipiaid 3:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gyfeillion, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio'r hyn sydd o'r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o'r tu blaen, yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.
Philipiaid 3:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y brodyr, nid wyf fi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael: ond un peth, gan anghofio’r pethau sydd o’r tu cefn, ac ymestyn at y pethau o’r tu blaen, Yr ydwyf yn cyrchu at y nod, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu.