Philipiaid 2:5-7
Philipiaid 2:5-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu: Roedd e’n rhannu’r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn.
Philipiaid 2:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio, ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol.
Philipiaid 2:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu: Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; Eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion